Dathlu Henaint: Gwahoddiad i Annog y “Caleb” a’r “Anna”

Yn ystod ei llywyddiaeth, bu Llywydd UBC (Adain Ddi-Gymraeg) Parch. Maggie Rich yn hyrwyddo pwysigrwydd yr henoed yn ein plith. Yma, clywn am brosiect newydd hyfryd: diwrnod i nodi ac i ddathlu ffyddlondeb credinwyr hŷn yn ein plith, o’r enw ‘Sul Dathlu Henaint’. Clywn hefyd fyfyrdodau ar arwyddocâd y diwrnod gan y Parch. Peter Thomas.

Gyda nifer yn dathlu “Sul Arian” ar y 4ydd o Hydref, tybed allech chi ystyried cynnal rhywbeth tebyg yn eich eglwys chi eleni?

Gweledigaeth y Parch. Maggie Rich

Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth y Parch. Peter Thomas gyflwyno Prosiect Caleb; yn ffocysu ar henoed. Yn ystod fy llywyddiaeth yn yr Adain Ddi-Gymraeg, fe fûm i hefyd yn ffocysu ar henoed, yn ein heglwysi ac yn ein cymunedau.

Y llynedd, buom ni’n ffodus i redeg prosiectau peilot ar gyfer UBC, o’r enw “Celebrating Age / Dathlu Henaint.” Fe ddewisom ni Hydref y 5ed 2025, gan mai hwnnw oedd y diwrnod y penododd Age Cymru fel “Sul Arian”.

Fe wnaeth y bobl hŷn yn y dair eglwys ble’r ydw i yn weinidog – ac Eglwys Rydd sydd yn ymuno â ni yn gyson – ddod at ei gilydd brynhawn Sul ar gyfer gwasanaeth naws caffi. Fe wnaethom ni ystyried thema “ffyddlondeb”: o ran eu ffyddlondeb mewn gweddi a gwasanaeth dros y blynyddoedd, a ffyddlondeb Duw. Fe edrychon ni ar hanes Simeon ac Anna yn y Deml: ffyddlondeb Duw yn ei ddewid i Simeon y byddai’n wir yn gweld Meseia Duw, a ffyddlondeb Anna yn ymprydio ac yn gweddïo dros sawl blwyddyn.

Darllenwyd cerdd Eleanor Farjeon “Mrs Malone”: y gwasanaeth i’r rhai mewn angen sydd yn aml yn parhau yn dawel ac heb sylw, ond y mae Duw yn ei weld. Fe ystyrion ni hefyd weinidogaeth ieuenctid, a phwysigrwydd y “gwreiddiau” hyn o fewn yr eglwys i gynnal a chryfhau y weinidogaeth honno.

Ar ôl y gwasanaeth, gweinwyd yr henoed gyda the prynhawn llawn gan y rhai iau, a rhannwyd straeon o amgylch y ford.

Mae ein henoed mor bwysig, ac mae’n dda cymryd y cyfle i ddiolch iddyn nhw, ac i ddangos gwerthfawrogiad am yr hyn y maent wedi ei wneud yn y gorffennol – ac mewn sawl achos yn parhau i’w wneud.

Myfyrdodau gan Y Parch. Peter Thomas

Y mae’r Sul hwn yn gyfle inni sylweddoli’r gwerth a’r potensial a berthyn i bawb wrth iddynt dyfu’n hŷn – yn gyfle inni ddathlu yr hyn ydym a’r hyn y medrwn barhau i’w gyfrannu mewn cymuned ac eglwys.

Y mae Gair Duw yn rhoi gwerth ac amlygrwydd i henaint: Y mae Salm 92 adnod 13 yn ein hatgoffa: “Y maent wedi eu plannu yn Nhŷ’r Arglwydd ac yn blodeuo yng nghynteddau Duw. Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint.”

Nid yw cynhaliaeth a nerth Duw yn lleihau wrth inni dyfu’n hŷn! Gallwn barhau i fod o wasanaeth ym mlynyddoedd ein henaint oherwydd bod Duw yn rhoi’r grym a’r gallu inni wneud hynny, bydd yn ein hadnewyddu ac yn ein grymuso i ddal ati.

Roedd Abraham yn hen ŵr, nawdeg pedwar blwydd oed pan ddwedodd Duw wrth fe y byddai yn dod yn dad cenedl fawr – a byddai Sara ei wraig yn cenhedlu plentyn a hithau’n nawdeg dwy blwydd oed. Pan drosglwyddwyd yr awenau i Josua i arwain y genedl i mewn i wlad Canaan yr oedd yntau hefyd wedi croesi oed yr addewid a pharhaodd i arwain y genedl honno hyd nes ei farw yn 110 blwydd oed. Y mae’r Apostol Paul yn cyfeirio ato’i hun yn ei lythyr at Philemon fel “Paul, yr hen ddyn bellach” ac eto gwyddom ei fod yn dal wrthi yn brysur ysgrifennu llythyron at eglwysi Effesus, Colosia a Philipi ac yntau mewn carchar.

Y mae llawer o enghreifftiau eraill o’r modd y defnyddiodd Duw unigolion ym mlynyddoedd euraidd eu bywyd i fod o wasanaeth ac i ddwyn ffrwyth yn eu henaint.

Y mae proffwyd Eseia yn nodi y bydd “y rhai sydd a’i gobaith yn yr Arglwydd yn adnewyddu eu nerth. Byddant yn hedfan ar adenydd fel eryrod; byddant yn rhedeg ac ni fyddant yn flinedig, byddant yn cerdded ac ni fyddant yn llewygu.” Nid yw cynhaliaeth a nerth Duw yn lleihau wrth inni dyfu’n hŷn! Gallwn barhau i fod o wasanaeth ym mlynyddoedd ein henaint oherwydd bod Duw yn rhoi’r grym a’r gallu inni wneud hynny, bydd yn ein hadnewyddu ac yn ein grymuso i ddal ati.

“Bydd y rhai sydd a’i gobaith yn yr Arglwydd yn adnewyddu eu nerth. Byddant yn hedfan ar adenydd fel eryrod; byddant yn rhedeg ac ni fyddant yn flinedig, byddant yn cerdded ac ni fyddant yn llewygu.”

Isaiah 40:31

Mae’r Sul hwn nid yn unig yn gyfle i ddathlu henaint, ond yn her inni sydd wedi cyrraedd y tymor hwnnw mewn bywyd i ystyried y breintiau a’r cyfleoedd y mae Duw yn parhau i’w cynnig inni a’r drysau y mae ef yn dal i’w hagor yn ein hanes. Ymddiriedwn ynddo a chyfeirio’n bywydau yn glod ac yn ogoniant i’w enw.

Gallwch ddarganfod mwy am Sul Arian yma ac yma. Nodwch: nid yw Age UK yn parhau i drefnu Sul Arian yn ganolog, ond mae’r diwrnod dal yn cael ei ddathlu gan nifer o grwpiau lleol a rhanbarthol, ac eglwysi. Eleni bydd y diwrnod yn cael ei farcio gan nifer ar y 4ydd o Hydref.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau