Esgyn… Cyrraedd Cenhedlaeth Newydd!

Roedd 2024 yn flwyddyn unigryw i’r Llywydd Tim Moody ac i eraill yn nheulu Undeb Bedyddwyr Cymru, wrth i weledigaeth a anwyd mewn gweddi er blynyddoedd lawer ddod yn realiti. Ym mis Chwefror 2024, lawnsiwyd y penwythnos ieuenctid cyntaf a gefnogwyd gan UBC, gan dîm dwyieithog o unigolion ar draws Dde Cymru, gyda’r enw ‘Esgyn’ .

Wrth i ni glywed adroddiadau am beth (allai fod) yn ddechrau i newid ysbrydol yng nghalonnau nifer mewn gwahanol rannau o’r DU – yn enwedig ymhlith Gen Z a’r cenedlaethau iau, mae’n amserol i ni rannu sut yr ydym wedi gweld Duw ar waith ymhlith ein pobl ifanc… Dyma Tim Moody yn rhoi cipolwg i ni o benwythnos cyntaf Esgyn a ddigwyddodd ym mis Chwefror, a sut roedd Duw ar waith yno…

Yng nghymoedd De Cymru, y mae canolfan gweithgareddau preswyl, yr adnabyddir fel Canolfan Summit Rock UK. Yma cynhaliwyd penwythnos cyntaf Esgyn – y cyntaf o nifer, rydym ni’n gweddïo!

Adeiladwyd Esgyn ar y gred bod Duw eisiau gwneud rhywbeth pwrpasol ymhlith pobl ifanc ein cenedl, gan ddefnyddio geiriau Duw i Moses o’r berth danllyd fel ysbrydoliaeth – “Bydda i gyda ti. A dyma fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o’r Aifft, byddwch chi’n fy addoli i ar y mynydd yma.” (Ex 3:12-15).

Gyda’r argyhoeddiad bod Duw wir ar waith yn y genhedlaeth hon, fe wnaeth criw bach ohonom ddod at ein gilydd i lawnsio Esgyn. Fe wnaeth lleisiau o ar draws Gymru (yn Gymraeg ac yn Saesneg) gyfrannu at y weledigaeth, a’n harweiniodd ni i groesawu 32 o bobl ifanc mor bell â Sir Benfro i Dde Cymru ar gyfer y penwythnos. Ac am benwythnos cawson ni!

Ar Ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni fwynhau 6 awr o weithgareddau, gan gynnwys dringo un o waliau dringo uchaf y Deyrnas Unedig, saethyddiaeth, rhaffau uchel a taesu cewyll. Fe wnaeth y gweithgareddau hyn roi cyfle i’r bobl ifanc brofi pethau nad oedden nhw wedi eu profi o’r blaen, a chaniatáu iddynt ddysgu gweithio fel tîm. Tra bod y gweithgareddau yn llawer iawn o hwyl, fe wnaethon nhw hefyd gynorthwyo i dorri lawr rhai o’r waliau y mae pobl ifanc yn aml yn eu teimlo wrth gymysgu gyda phobl newydd.

‘Gwelwyd y newid yn y bobl ifanc… wrth i fwy a mwy o leisiau gael eu hychwanegu i’r addoli wrth i’r penwythnos fynd yn ei blaen…’

Gwelwyd gwir werth y gweithgareddau yn yr amserau y daethon ni at ein gilydd ar gyfer y cyfarfodydd Roedd y cyfarfod cyntaf ar Ddydd Gwener wrth gwrs ychydig yn chwithig, ond wrth i’r penwythnos fynd yn ei blaen ac i’r bobl ddod i adnabod ei gilydd, roedd hi’n rhyfeddol gweld Duw ar waith yn eu plith fel cenhedlaeth. Roedd y cyfarfodydd yn cynnwys cyfweliad gydag un o’r tîm (gan gynnwys un o’r cyfarwyddwyr o’r Ganolfan Summit), a chyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hefyd cyfnod o addoli, eto yn ddwyieithog ble yn bosib, a gwelwyd y newid yn y bobl ifanc gliriaf yma wrth i fwy a mwy o leisiau gael eu hychwanegu i’r addoli wrth i’r penwythnos fynd yn ei blaen.

Roedd yna hefyd neges fer ymhob cyfarfod, yn edrych ar Pedr yn cerdded ar y dŵr, ac yn annog y bobl ifanc i ystyried sut y gallent ‘hoelio eu llygaid ar Iesu, ‘gwybod Ei fod yno yn syth pan dŷn ni’n galw’, a gweld bod ganddynt ‘gerddediad ffydd eu hunain i gerdded.’

Roedd y nosweithiau yn cynnwys siocled poeth, ffilmiau, gemau bwrdd, ac yn ôl yr ystafell roeddech chi ynddi, ychydig o gwsg! Rhwng hwn i gyd, roedd amser i wylio ychydig o rygbi, chwarae ychydig o bêl droed, a mwynhau casgliad o gemau tîm.

Ers Esgyn, rydyn ni wedi clywed straeon am sut mae’r genhedlaeth iau hon wedi ymwneud gyda’u taith ffydd eu hunain, edrych ar sut y gallent ymwneud gyda’u heglwys, ymuno â mwy o ddigwyddiadau ieuenctid, a hyd yn oed ystyried bedydd!

Mae Duw ar waith yn y genhedlaeth hon, ac rydym ni’n credu bod Esgyn yn darparu ffordd i ni gysylltu gyda nhw, cerdded gyda nhw, a dangos Iesu i’r bobl ifanc yn Ei holl Ogoniant.

‘Mae Duw ar waith yn y genhedlaeth hon.’

Rydym yn gobeithio mai’r penwythnos cyntaf o nifer oedd y penwythnos cyntaf Esgyn ym mis Chwefror, ac y bydd Esgyn yn fendith i nifer o bobl ifanc yn ein heglwysi. Bydd aduniad nesaf Esgyn yn digwydd yng nghynhadledd Momentum ar yr 8fed o Fehefin, ar y cyd gyda chyfeillion o BMS World Mission. I ddarganfod mwy am Momentum ac i weld sut y gallwch ymuno, ewch i: Momentum 2024 – The Baptist Union of Wales (buw.wales)

I ddarganfod mwy am Esgyn ac i glywed y newyddion a’r straeon diweddaraf, rydych chi’n gallu dilyn tudalen Instagram Esgyn yma: Esgyn (@esgynyouth) • Instagram photos and videos (rydyn ni hefyd ar Facebook!).

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Stori CERDDED! Llinos

Dyma hanes a myfyrdodau gan Llinos, un o’n cerddwyr brwd a gerddodd gant (!) o filltiroedd dros y misoedd diwethaf tuag at her CERDDED! Cymru & Zimbabwe…

Darllen mwy »

Gobaith i’r Cynhaeaf…

Mae ond ychydig o fisoedd ar ôl i ymuno mewn gwaith allweddol sydd wedi bod yn digwydd yn Zimbabwe eleni. Darllenwch i ddarganfod sut y gallwch chi chwarae rhan bwysig yn y gwaith y Cynhaeaf hwn…

Darllen mwy »