Hysbyseb Swydd: Ysgrifennydd Cyffredinol UBC

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn dymuno penodi Ysgrifennydd Cyffredinol i wasanaethu fel Prif Weithredwr ac i ddarparu arweinyddiaeth strategol ar draws yr Undeb, Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru a Chronfa Adeiladu Bedyddwyr Cymru mewn cyfnod trawsffurfiol yn ei hanes.

Rydym yn chwilio am arweinydd gyda gweledigaeth sydd, yn ddelfrydol, yn meddu ar sgiliau profedig mewn llywodraethiant, rheoli newid ac arweinyddiaeth ysbrydol. Elfen hanfodol o’r rôl yw cynnig arweiniad ac anogaeth i Eglwysi a Gweinidogion yr Undeb. 

Mae’r swydd, yn ddelfrydol, ar gyfer gweinidog Bedyddiedig ordeiniedig a chydnabyddedig ag iddynt enw da,  neu berson lleyg bedyddiedig ag iddynt enw da gyda phrofiad o arweinyddiaeth rhagorol  mewn cyd-destun Cristnogol, elusennol neu gymunedol. Disgwylir cynefindra â gofynion llywodraethiant elsuennol niferus, profiad o ddatblygiadau cyfredol mewn Gweinidogaeth a Chenhadaeth ac adnabyddiaeth lwyr o’r cyd-destun Cristnogol yng Nghymru.

Mae’n Ofyniad Galwedigaethol yn ôl amodau Deddf Cydraddoldeb 2010 Atodiad 9 Rhan 1 Paragraff 3, fod deiliad y swydd yn Gristion mewn gair a gweithred ac yn cytuno â Datganiad Egwyddor Undeb Bedyddwyr Cymru, yn unol â’r cyfrifoldeb i ddarparu arweinyddiaeth ysbrydol i gynrychioli a hyrwyddo gweledigaeth Gristnogol a gwerthoedd yr Undeb, ac i fodelu’r ddisgyblaeth Gristnogol ym mywyd yr Eglwysi a thîm y swyddfa. 

Mae’r gallu i gysylltu a chyfathrebu yn effeithiol mewn cyd-destun dwyieithog yn hanfodol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:  6 Chwefror 2026

Dyddiad cyfweld:  19 Chwefror 2026

Pe baech yn dymuno trafod y swydd yn gyfrinachol yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig Judith Morris ar 07872 824165. Mae ffurflen gais a phecyn gwybodaeth ar gael drwy gysylltu â swyddfa UBC ar 0345 222 1514 neu post@ubc.cymru.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau