Edrychwn ymlaen at Oedfa Ilston, pan fyddwn yn nodi 200 mlwyddiant bywyd a gwaith Joseph Harris Gomer, ac yn edrych ar rôl hanesyddol a chyfoes y llais Cristnogol cyhoeddus yng Nghymru...
Croeso i chi ymuno â ni eleni yn Oedfa flynyddol Ilston (ar-lein), fydd yn cael ei chynnal nos Fawrth, 20 Ionawr am 7yh.
Eleni byddwn yn clywed am gyfraniad pwysig Gomer, sef Joseph Harries (1773-1825). Roedd Gomer yn Olygydd, Argraffydd a Gweinidog a fu’n gyfrifol am sefydlu’r papur newydd wythnosol Cymraeg cyntaf, Seren Gomer. Wrth nodi 200 Mlwyddiant bywyd a gwaith Gomer, bydd yr Athro Densil Morgan yn edrych yn ôl ar ei gyfraniad sylweddol yn defnyddio cyfryngau ei oes i siapio ein cenedl. Edrychwn ymlaen hefyd gyda Jonathan Thomas, darlledwr crefyddol yng Nghymru, sydd yn defnyddio cyfryngau modern i helpu ystyried materion ffydd yng Nghymru heddiw.

Bywgraffiad Jonathan Thomas:
Mae Jonathan Thomas yn siaradwr, awdur, a darlledydd ag angerdd archwilio crefydd a materion moeseg. Fel cynhyrchydd BBC Radio, mae e’n mwynhau creu cynnwys sydd yn mynd i’r afael â materion treiddgar ein hoes. Ar hyn o bryd, mae Jonathan yn cyflwyno All Things Considered ar y cyd ar BBC Radio Wales, trafodaeth wythnosol am ffydd, diwylliant a chymdeithas. Mae e hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o ffilmiau am hanes Diwygiadau Cymru, sydd yn archwilio hanes cyfoethog y diwygiadau.
Gwahoddiad Zoom:
Cyswllt Zoom: https://us06web.zoom.us/j/89503074363?pwd=Z3bQZLG9vaNjXAAUhDfFfxpQspfuw9.1
Meeting ID: 895 0307 4363
Passcode: 346580