Cyflwyno: Esgyn!

Dros y flwyddyn ac ychydig ddiwethaf, mae Duw wedi bod yn tyfu angerdd ymhlith criw o fewn Undeb Bedyddwyr Cymru i weld sut y gallwn ni ddarparu ar gyfer y bobl ifanc yn ein heglwysi…

Ar ôl i griw bach o fewn teulu UBC geisio wyneb Duw gyda dwylo a chalonnau agored, rydyn ni nawr yn gyffrous i ddechrau rhannu gyda chi ganlyniadau llawer o weddi a llafur.

Yn cyflwyno: ‘Esgyn’, menter newydd UBC ar gyfer pobl ifanc!

Ganwyd Esgyn ar ôl blwyddyn o drafodaeth, gweddi a sgwrs rhwng amryw o unigolion o fewn UBC sydd yn cario calon ar gyfer pobl ifanc, ac eisiau gweld mwy o ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ar draws Gymru.

Dyma Tim Moody, llywydd yr Adran Saesneg a chyn-weithiwr ieuenctid, yn rhannu’r weledigaeth:

‘Bwriad Esgyn yw i greu cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i adeiladu perthnasau gyda’i gilydd, tra hefyd yn darganfod mwy am Dduw.

Wrth wraidd ‘Esgyn’ yw’r sylweddoliad mai ond 1 neu 2 o bobl ifanc sydd gan nifer o’n heglwysi. Ac felly, gyda hynny mewn golwg, y bwriad yw creu cyfle i bob un ohonyn nhw i ddod yn rhan o rywbeth mwy, gan ddod â’r ‘un’ a’r ‘ddau’ ynghyd er mwyn derbyn anogaeth, ffurfio cymuned, dysgeidiaeth, a hwyl!

Rydyn ni’n credu yn gryf nad yw Duw wedi gorffen gyda’I Eglwys, ac felly mae angen i ni fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf hon yn fwriadol tra bod rhai ohonyn nhw dal yn ymwneud â bywyd eglwysig (a’r rhai sydd ddim!). Y gobaith yw y bydd ‘Esgyn’ yn helpu adeiladu cysylltiadau rhwng cyfoedion, ac yn annog pob person ifanc yn eu taith ffydd, ble bynnag maen nhw ar y daith yna.

Digwyddiad cyntaf ‘Esgyn’ fydd penwythnos ieuenctid yng Nghanolfan The Rock, Treharris, De Cymru ar y 9fed – 11eg o Chwefror 2024.

Fe fydd y penwythnos yn dechrau ar y nos Wener, ac yn rhedeg tan y prynhawn Sul, gyda chyfle i’r bobl ifanc fwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael yng Nghanolfan The Rock, gan gynnwys saethyddiaeth, ogofa a dringo.

Bydd hefyd digon o gyfle i fwynhau bwyd gyda’n gilydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill, ac ymgymryd ag amserau o addoli a defosiwn.’

Fe fydd y penwythnos yn rhedeg yn ddwyieithog, gyda darpariaeth yn y Gymraeg.

Carem ni petaech chi’n ystyried sut allech chi ymuno â ni ar y daith hon!

  • Ystyriwch ddod os ydych chi’n berson ifanc (bydden ni’n caru eich cael chi!) neu estynnwch wahoddiad i bobl eraill ifanc rydych chi’n eu hadnabod yn eich eglwys neu eich cymuned i ymuno â ni. Gallwch ddarganfod mwy am benwythnos Esgyn yma.
  • Lledaenwch y gair am benwythnos Esgyn ym mis Chwefror dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un golli mas!
  • Gweddïwch droson ni a dros bobl ifanc yng Nghymru! Rydyn ni’n argyhoeddedig mai ond trwy lenwad a nerth Duw allen ni ddechrau gwaith gwerthfawr ymhlith pobl ifanc. Gweddïwch hefyd fod Duw hefyd yn gweithio’n nerthol ymhlith y cenedlaethau iau yng Nghymru. Cysylltwch â Sioned sioned@ubc.cymru os hoffech chi glywed mwy am sut allech chi ymuno â gweddi dros Esgyn.
  • Ystyriwch a allech chi gefnogi person ifanc i ddod i Esgyn, neu fuddsoddi yn Esgyn am flynyddoedd i ddod.

Bydden ni hefyd yn caru clywed gennych chi!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech glywed mwy, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â Tim tmoody083@gmail.com neu Sioned sioned@ubc.cymru.

Cadwch lygaid am newyddion am Esgyn dros y misoedd nesaf ar ein tudalen wê, neu ar gyfrif Instagram Esgyn.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »