Cwrs cenhadol newydd – Darganfod 2021

Roedd pethau’n ddigon heriol ar ein heglwysi ni cyn i’r pandemig daro; ac erbyn hyn, ar ôl blwyddyn o golled, cyfnodau clo ac oedfaon arlein, siawns bod llawer ohonom yn teimlo’r faich o ‘ddal ati’ yn fwy fyth. Does dim amser gwell, felly, i gymryd cam yn ôl a gofyn y cwestiynau mawr; ydy Duw wir ar waith yn ein cymunedau ni? Sut siap fydd ar Gristnogaeth yng Nghymru ymhen deng mlynedd? Oes yna atebion gonest i’w cael yn y Beibl a allai rhoi arweiniad i ni?

Dyma’r union gwestiynau sy’n sail i gwrs Darganfod. Yn sgil llwyddiant y cwrs y llynedd, a’r ffaith bod cynifer wedi gofyn i ni barhau, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn rhedeg ail flwyddyn ohono eleni, a hynny unwaith eto yng nghwmni Cam Roxburgh o Ganada. Bydd cynnwys y cwrs yn wahanol i’r llynedd, ond mae croeso i unrhywun ymuno na fuodd gyda ni y tro diwethaf!

Dyma air gan Cam i gyflwyno’r cwrs eleni:

Yn Saesneg y bydd cyflwyniadau Cam ond bydd grwp trafod cyfrwng Cymraeg yn rhan bwysig o bob sesiwn. Dilyn llyfr cyffrous David Fitch, ‘Faithful Presence’, y bydd y cwrs eleni, ac mae’r llyfr yn dangos gydag enghreifftiau go iawn sut gall presenoldeb ein heglwysi yn ein cymunedau gael eu trawsnewid gan Dduw.

Meddai Parch Simeon Baker, ‘Mae llawer o eglwysi’n credu bod unrhyw ymgais ar genhadaeth rywsut y tu hwnt i ni ac yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw i fyny â’r holl dueddiadau diweddaraf, i fod yn fwy modern a chyfoes. Mae’r llyfr syml a hawdd ei ddarllen hwn gan David Fitch yn adrodd stori wahanol. Mae’n siarad am arferion ffyddlon yr eglwys ac yn ein herio i ailddarganfod sut y gallant effeithio ar ein cymuned. Pam na wnewch chi ymuno â ni unwaith y mis gyda Cam wrth i ni archwilio sut i fod yn bresenoldeb ffyddlon Duw mewn byd sydd wir angen hynny.’

Mae’r llyfr ar gael arlein trwy amazon ac mewn mannau eraill am ryw £10.

Y llyfr fydd yn sail i’r cwrs eleni

Mae modd cofrestru trwy ddilyn y ddolen yma – bydd y sesiynau misol yn dechrau fis Medi felly cofrestrwch cyn gynted a bo modd!

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »