Cenhadon i Gymru

Ar ddiwedd y 19eg ganrif anfonodd Cymru rai o’i meibion a’i merched gorau i wasanaethu fel cenhadon i diroedd pellenig ymhell cyn oes yr awyren. Cymaint oedd eu hargyhoeddiad, yr oeddent yn barod i adael popeth er mwyn rhannu efengyl Iesu â’r rhai nad oedd erioed wedi ei glywed.  Mae straeon anhygoel am bobl fel Timothy Richards, Ffaldybrenin, Robert Jermain Thomas, Rhaeadr Gwy a David Evan Jones o Landderfel yn dal i gael eu hadrodd heddiw. 

Yn awr yn 2022 mae gweithwyr cenhadol yn dod o weddill y byd i ni yng Nghymru.  Dros y tair blynedd diwethaf mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi bod yn ymateb i nifer cynyddol o bobl sy’n teimlo eu bod yn cael eu galw i Gymru o dramor. Sungsu a Nana P oedd y cyntaf i gyrraedd o dan y cynllun hwn a daethant gyda’u tair merch o Seoul yn Ne Korea. Ar hyn o bryd maent yn byw yn Llanelli ac yn cefnogi’r weinidogaeth yn eglwys Hope/Gobaith.  Roedd gan Anna K gysylltiadau cryf â Phenuel, Caerfyrddin ac mae nawdd VISA wedi caniatáu iddi weithio gyda’r eglwys am gyfnod hirach. Cyrhaeddodd Jeff a Linda K o Los Angeles yn 2021 ac maent bellach wedi’u lleoli o fewn Cymdeithas Gwent yn ceisio ewyllys Duw i wasanaethu eglwys yn y rhanbarth hwnnw.  Yr ydym hefyd yn gobeithio y bydd Phil W yn gallu ymuno â ni yma yng Nghymru cyn yr haf. Bydd Phil wedi’i leoli gyda Chaersalem, Caernarfon ond bydd ganddo hefyd weinidogaeth arloesol ehangach a fydd yn helpu ein heglwysi i feddwl am gyrraedd y mwyafrif o bobl sy’n gweld Cristnogaeth fel rhywbeth yr ydym wedi’i anghofio a’i adael ar ôl yma yng Nghymru.  

Ymhell cyn i’r cynllun noddi VISA yma ddechrau, cafodd rhai o’n heglwysi y fraint o groesawu cenhadol am nifer o flynyddoedd, a hynny er budd mawr. Pobl fel Peter & Hyeran C yn Nhrecelyn, Mike & Mary B yn Noc Penfro, Trey ac Amelia M ym Mhenygroes, Isaias G yn Llanelli, David C yn Nhreffynnon a Rob ac Andrea F a ddychwelodd i Ganada o Aberteifi yn ddiweddar. Mae’r bobl hyn yn rhodd wrth Dduw, a maent yn dod â phrofiadau a safbwyntiau gwahanol i’r rhai ohonom sydd ddim ond wedi profi arferion Cristnogol Cymreig neu Brydeinig. 

Fel pob gwaith cenhadol da, mae’r buddsoddiad o amser ac egni y mae’r bobl hyn yn ei wneud yn ein cyd-destunau yn galw am aberth. Mae’r bobl hyn i gyd yn dod i Gymru gyda  chefnogaeth weddï ac ariannol wrth ffrindiau, teulu ac eglwysi.  Maent yn treulio amser  yn dysgu diwylliant a iaith newydd ac yn ymroi yn ddi-droi’n-ôl i gefnogi gwaith Duw yma yng Nghymru. Ac mae angen gwneud addasiadau bob amser, ar ran y gweithiwr newydd a’r eglwys sy’n derbyn.  

Mae Cymru heddiw yn lle gwahanol iawn i’r un a adawodd Timothy Richards i fynd i China. Nawr mae angen mwy nag erioed arnom i rannu gyda phobl yng Nghymru sy’n gwybod yr holl eiriau i ‘Bread of Heaven’ ond sydd heb flasu’r bara byw. Rydym yn ddiolchgar i Dduw am bawb sy’n dod i wasanaethu a thystiolaethu yma yng Nghymru a gofynnwn i chi weddïo drostynt hefyd. 

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y rhaglen hon, mae gwybodaeth a manylion cyswllt ar gael ar y dudalen hon: Noddi Gweithwyr

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »