Cynllun Disgyblion Cenhadol

Mae UBC yn lansio rhaglen hyfforddiant newydd gyffrous ar gyfer oedolion ifanc: Blwyddyn ‘Cynllun Disgyblion Cenhadol’

Mae hwn yn gyfle arbennig i dreulio blwyddyn yn tyfu yn eich ffydd, datblygu eich doniau a’ch sgiliau, a phrofi eich galwad mewn awyrgylch bywiog, ysbrydoledig a chefnogol.

Ydych chi (neu rywun rydych chi’n ei nabod) yn oedolyn ifanc sydd am ddyfnhau eich perthynas gyda Duw, datblygu eich sgiliau, archwilio cenhadaeth, a mentro ar anturiaethau newydd? Carem glywed oddi wrthych chi os felly!

Rydym yn lansio dau gynllun ‘hyfforddiant’ newydd ochr yn ochr eleni: un Flwyddyn Disgyblion Genhadol wedi’i lleoli yn Eglwys y Bedyddwyr Caersalem (iaith Gymraeg), a’r ail yng Nghymanfa Bedyddwyr Gwent (iaith Saesneg). Bydd y ddau wedi eu hariannu yn llawn, ac mi fyddant yn dechrau ym mis Medi 2027.

Byddwch chi wedi eich lleoli yn Eglwys Caersalem Caernarfon (iaith Gymraeg) neu yng Nghymanfa Bedyddwyr Gwent (GBA) (iaith Saesneg) – yn ogystal â gweithio ymhlith eglwysi a phrosiectau cenhadol eraill sydd wedi gweld twf a ffyniant dros y blynyddoedd diwethaf.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm profiadol fydd yn cynnwys gweinidogion a swyddogion o Eglwys Caersalem a GBA, ar y cyd gyda thîm Cenhadaeth UBC ac aelodau cefnogol eich eglwys leol.

Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfle i droi eich llaw at amrywiaeth eang o weinidogaethau a phrosiectau, gan gynnwys:

  • Gwaith Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Cenhadol Cyffrous
  • Addoli ac Arwain
  • Gweinidogaethau Ymarferol
  • Gwaith bugeiliol
  • Hyfforddiant a Digwyddiadau ar lefel genedlaethol
  • A llawer mwy – bydd modd teilwra yn ôl eich doniau a galwad!
  • Bydd y flwyddyn yn cael ei hariannu yn llawn gan UBC! Bydd costau a threuliau llawn yn cael eu darparu gan UBC (mae hyn yn cynnwys llety, teithio, a chostau bwyd yn ystod y diwrnod gwaith. Y tu hwnt i lety, bydd angen i chi ddarparu ar gyfer eich costau eich hunain e.e brecwast, swper, treuliau personol ac unrhyw deithio nad yw’n ymwneud â’r hyfforddiant yn ystod y flwyddyn. Mae cyrff cenedlaethol sydd yn cefngoi myfyrwyr yn awgrymu caniatáu rhyw £600 o bunnoedd bob mis, sef tua £6000 am 10 mis).
  • Bydd hefyd gyfle i wneud y flwyddyn hon ochr yn ochr â swydd ran amser os byddai hyn yn ddefnyddiol neu’n angenrheidiol i chi o ran cwrdd â chostau byw.
  • Bydd UBC hefyd yn darparu cyngor a help i godi cefnogaeth ariannol (e.e codi cefnogaeth ariannol o’ch eglwys leol).

Rydym ni’n chwilio am rywun:

  • Sydd â ffydd Cristnogol gref
  • Sydd yn angerddol dros genhadaeth yng Nghymru
  • Sydd yn awyddus i ddarganfod mwy am eu hunain, a dirnad galwad Duw dros eu bywyd
  • Sydd yn gyffrous i ddysgu, tyfu a gwasanaethu
  • Gallai’r flwyddyn hon fod yn fuddsoddiad gwerthfawr hir-dymor i’ch bywyd a’ch gyrfa
  • Mae hwn yn gyfle i ddirnad galwad Duw dros eich bywyd, a’i geisio Ef ar gyfer eich camau nesaf.
  • Byddwch yn derbyn cefnogaeth gref gan arweinwyr ac eglwysi profiadol a strwythurau cenedlaethol cryf.
  • Cyfle i ddatblygu eich sgiliau, doniau a chymeriad ar draws nifer o ardaloedd gwahanol o weinidogaeth a chenhadaeth.

Mae ceisiadau nawr ar agor tan y 9fed o fis Ebrill 2027.

Gallwch lenwi’r ffurflen gais gychwynnol isod, a byddwn yn cysylltu â chi ar gyfer sgwrs pellach i archwilio’r ffordd ymlaen gyda chi!

Mae croeso i chi gysylltu â ni i archwilio pethau ymhellach – gallwch unai cysylltu â carwyn@ubc.cymru i gael sgwrs â’r tîm cenedlaethol neu: hannah@caersalem.com (ar gyfer Caersalem) a tmoody083@gmail.com (ar gyfer GBA – Cymanfa Bedyddwyr Gwent).

Os ydych chi’n nabod pobl ifanc a chanddynt galon dros genhadaeth neu ddiddordeb yn y weinidogaeth – rhannwch y gair gyda nhw neu cyfeiriwch nhw yma!