“Roedd criw o eglwysi gyda ni ar draws Cymanfa Bedyddwyr Gwent oedd â rhai pobl ifanc yn mynychu neu o leia yn gyfarwydd i’r eglwys – ond doedd yr eglwysi ddim o reidrwydd yn gallu cynnal gweinidogaeth pobl ifanc eu hunain,” eglura Tim Moody, un o’r bugeiliaid yn eglwys Moriah Baptist yng Ngwent. “Ond dyma ni’n meddwl pam na allwn ni ddod â’r unigolion neu’r grwpiau bach hyn at ei gilydd, i ymgynnull? Felly, dyma ni’n dechrau gwneud gan greu cyfarfod misol o dan yr enw ‘The Gathering’ – ac wedi gweld pethau’n tyfu oddi yno.”
Ymgynnull
Mae noson nodweddiadol bellach yn gweld tri deg o bobl ifanc yn dod at ei gilydd ar nos Sul unwaith y mis i dreulio amser yn dod i adnabod Iesu’n well mewn awyrgylch anffurfiol. Hyn ar ôl cychwyn gydag ond rhyw ddwsin o bobl ifanc. Mae’r fformat ei hun yn syml ond yn fwriadol, wedi’i grynhoi yn eu harwyddair Ymgynnull. Cyd-addoli. Cyd-fwyta (neu ‘Gather/ Worship / Eat). Fel yr eglura Tim, “roedden ni eisiau i bobl ifanc gael lle diogel i fod yn Gristnogion gyda’i gilydd, a chael cyd-destun lle gallen nhw glywed yn uniongyrchol ac mewn ffordd berthnasol iddyn nhw beth mae’n ei olygu i ddilyn Iesu yn eu bywydau.”



Felly mae cyfweliadau ag arweinwyr, archwiliadau byr o gymeriadau o’r Beibl, yn ogystal â rhai gemau i dorri’r iâ i gyd yn rhan o’r arlwy. Ond yn anad dim, mae’r nod yn glir yn yr enw – creu’r math o ofod ac amser sy’n fwyfwy anodd i bobl ifanc gael mynediad ato yn ein cymdeithas ni iddynt dyfu fel disgyblion i Iesu gyda’i gilydd.
Diben
Roedd y tîm o bump neu chwech o arweinwyr o eglwysi ar draws Cymanfa Bedyddwyr Gwent bob amser wedi bod yn glir eu bod yn dymuno i hyn fod yn gynhwysol – gan roi lle i leisiau’r bobl ifanc ac eglwysi eraill yn lleol.
I’r perwyl hwnnw dyma nhw’n cynnal arolwg yn ddiweddar o’r hyn yr oedd y bobl ifanc eisiau ei weld o fewn bywyd eglwysig ac o ddigwyddiadau fel ‘The Gathering’. Er mawr syndod iddynt, yr ymateb oedd eu bod eisiau rhagor o’r un peth – mwy o amser gyda’i gilydd, mwy o gyfleoedd i gyfarfod, i fwyta gyda’i gilydd ac i ddysgu gyda’i gilydd beth mae’n ei olygu i ddilyn Iesu.
“Mae yna syched enfawr, ‘swn i’n dweud, i fod yn rhan o fwrlwm pethau,” meddai Tim. “Ac rydym wedi ceisio cydnabod hynny dros y flwyddyn ddiwethaf trwy feithrin arweinwyr ifanc o fewn y grŵp a all ddechrau cymryd cyfrifoldeb a chwarae rôl pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd.”
Dyfodol
Mewn oes lle mae canfyddiad wedi tyfu bod mentrau fel clybiau ieuenctid Cristnogol bellach yn perthyn i oes hŷn, cyn dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol, efallai bod llais pobl ifanc eu hunain yn awgrymu fel arall. Fel y mae Tim yn nodi, mae twf The Gathering yng Ngwent wedi digwydd ochr-yn-ochr â’r ymchwydd o ddiddordeb ym mhenwythnosau ieuenctid Esgyn (sy’n dychwelyd am y trydydd tro eleni ym mis Tachwedd, yr 21- 23ain).
Mae’r tîm sydd ynghlwm yn argyhoeddedig y gellid ailadrodd y model syml maen nhw wedi disgyn arno yng Ngwent yn ddigon hawdd mewn mannau eraill, gyda thîm weddol fychan wedi’i dynnu o sawl eglwys a chefnogaeth y Gymanfa gyda phot bach o gyllid yn gefn i’r gwaith – ac yn anad dim, angerdd dros Iesu a phobl ifanc wedi’i danio gan weddi!