Ganwyd John Price yn Nowlais, ar Hydref 7, 1868, ond ymhen ychydig amser, symudodd y teulu i fyw i’r Rhondda ac aethant yn aelodau ym Moreia, Pentre. Yno, cafodd John Price ei fedyddio yn Hydref 1882 ac o fewn naw mlynedd, cafodd ei annog i fynd i’r weinidogaeth. Bu yn Ysgol Baratoi Aberafon am ddeunaw mis, cyn mynd i’r coleg yn Hwlffordd, ac yna ymlaen i Goleg Rrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl cymhwyso, derbyniodd alwad oddi wrth Siloam, y Ferwig ym mis Medi 1896 a blwyddyn yn ddiweddarach, daeth Eglwys y Bedyddwyr ym Mlaenwenen yn rhan o’r un ofalaeth. Yno y bu am weddill ei oes.
O blith yr amrywiaeth o weinidogion Undeb Bedyddwyr Cymru, prin bod un wedi bod gyfeillgar a chefnogol i’w gyd-weinidogion nag Ernest Pugh. Ganwyd ef yn Stryd y Stag ym mhentref Carmel, nid nepell o Penygroes a Gorslas, ac yno cafodd ef a’i efaill Eynon fagwraeth gartrefol Gristnogol Gymreig gan eu…
Un o blant Charles a Margaret Phillips oedd Gwynfor Phillips, a’i deulu yn aelodau ffyddlon yng Nghalfaria Hendy. Roedd ei dad yn gweithio yn y gwaith tin ym Mhontarddulais, a derbyniodd Gwynfor ei addysg gynradd yn yr ysgol leol, cyn symud i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli. Roedd…
Brodor o Ddinbych oedd y Parchg Robert Pritchard. Cafodd ei eni yn 1817Dechreuodd ei yrfa eglwysig gyda’r Wesleaid ac yn 1817, derbyniodd fedydd trochiad gan y Parchg David Jones, Llansamlet arweinydd y Bedyddwyr Arminaidd yn yr ardal. A bu’n pregethu yn ardal Castellnedd am gyfnod. Daeth i Gaerdydd fel olynydd…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters