Un o blant Charles a Margaret Phillips oedd Gwynfor Phillips, a’i deulu yn aelodau ffyddlon yng Nghalfaria Hendy. Roedd ei dad yn gweithio yn y gwaith tin ym Mhontarddulais, a derbyniodd Gwynfor ei addysg gynradd yn yr ysgol leol, cyn symud i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli. Roedd o’r oed i’w alw i’r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, a bu yn y Llu Awyr rhwng 1940 – 1946. gan wasanaethu yn Ceylon, yr India ac yna yn Ynysoedd y Cocos. Tra ar yr ynysoedd hyn, cyfarfu â John Young, mab y Parchg Glasnant Young, a bu’r ddau yn gyfeillion agos ar hyd y degawdau wedyn.
Un o ddylanwadau pwysig ar Gwynfor oedd y Parchg Francis, ei weinidog pan yn blentyn ac yn ei arddegau. Bu yn ei annog i gymryd rhan mewn oedfaon yng Nghalfaria, ac ymdeimlodd Gwynfor a’r awydd i bregethu ac i gynnig ei hun i’r weinidogaeth. Ar ôl diwedd y rhyfel, aeth yntau i Fangor yn 1946, a blwyddyn yn ddiweddarach daeth John Young i ymuno gydag ef yno. Cyfaill mynwesol arall iddo oedd y Parchg George Eleias, a bu’r tri yn gefn i’w gilydd ar hyd eu hoes.
Ar ôl derbyn hyfforddiant ym Mangor, derbyniodd Gwynfor Phillips alwad if od yn weinidog yn eglwsy Salem Llansawel, (Britton Ferry) a chafodd gyfnod hapus yno am 13 blynedd. Bellach roedd wedi priodi gyda Barbara, merch a fagwyd yn yr Eglwys Wladol o Llangenech, ac a fu’n gymar ffyddlon iddo. Ganwyd iddynt un merch sef Rhian, a bu hiuthau’n addurn i’r aelwyd ac yn selog i’r egwys. Treuliodd Gwynfor ddeng mlynedd fywiog yn Soar, Treforus rhwng 1962 a 1972, a’i gymydog yno fel gweinidog Seion Treforus oedd ei gyfaill John Young. Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniodd o haelioni un o ddiaconiaid yr eglwys, a bu’r ddau yn teitio gyda’i gilydd i wledydd tramor, ac yn arbennig i fannau sy’n cael sylw yn y Beibl. Bu’r profiadau hyn yn fodd i atgyfnerthu pregethu efengylaidd hyfryd Gwynfor, ac roedd o hyd yn ddiolchgar am y cyfleoedd a gafodd yn y cyfnod hwn. Yn y llun isod, gwelir tri cyfaill gydol oes sef Gwynfor, George Elias a John Young.
Maes eglwysig olaf Gwynfor a Barbara oedd ym Methania Tŷ-croes, ger Rhydaman, a threuliodd 12 mlynedd gynnes yng nghwmni’r saint yno, rhwng1972 a Rhagfyr 1984, pan ymddeolodd o ofal eglwys ac yntau yn 66 oed. Yn rhyfeddol, daeth John Young i’r un ardal, pan symudodd John o Dreforus i gylch Landeilo. Dychwelodd y ddau i gefnogi mam Barbara yn Llangenech ac yno bu iddynt ymddeol. Bu llawer o alw ar ei amser gan ystod eang o eglwysi, a gwahoddwyd ef i fod yn weinidog anrhydeddus ar eglwys Salem, Llangenech. Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, symudodd ei aelodaeth yn ôl i Dŷ-croes, gan gynnig cefnogaeth i’r eglwys yno hefyd.
Cofir am Gwynfor fel gŵr cywir ei gam a gonest ei farn. Bu’n bregethwr beiblaidd gan gynnig neges o sylwedd mewn arddull a fu’n nodweddiadol o’i fagwraeth a’i gyfnod. Bydd llawer yn tystio bod gwrando ar Gwynfor yn gweddïo yn fendith fawr, a hawdd deall dyfnder a didwylledd ei ffydd gydol oes. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd mewn tri Cwrdd Dosbarth gwahanol ac er na fu’n chwennych cyfrifoldebau eangach, bu’n selog i gyfarfodydd Cymanfa ac Undeb. Roedd yn ffrind da i’w gyd-weinidogion ac yn fugail gofalus o’i braidd. Cofir amdano gydag anwyldeb a diolchgarwch.
Cyfrannwr; Denzil Ieuan John a Barbara Phillips