Pritchard – Robert (1779-1850)

robert pritchardBrodor o Ddinbych oedd y Parchg Robert Pritchard. Cafodd ei eni yn 1817Dechreuodd ei yrfa eglwysig gyda’r Wesleaid ac yn 1817, derbyniodd fedydd trochiad gan y Parchg David Jones, Llansamlet arweinydd y Bedyddwyr Arminaidd yn yr ardal.  A bu’n pregethu yn ardal Castellnedd am gyfnod.  Daeth i Gaerdydd fel olynydd i’r Parch Griffith Davies

Yn fuan wedi iddo ymadael â Chastell-nedd ac ymsefydlu yng Nghaerdydd cododd rhif aelodaeth yr eglwys i gant. Canlyniad hynny fu’r galw am gapel newydd yn y fan lle lleolir ef ar hyn o bryd, ac fe’i adeiladwyd ym mis Mawrth 1821 a’i alw Y Tabernacl, y flwyddyn, pan ordeiniwyd y gweinidog newydd er iddo fyw yn y dref ers dwy flynedd. Agorwyd yr adeilad newydd ar 27-29 Mawrth ar gyfer enwad y Bedyddwyr Neilltuol neu Gaethgymunol, sef Calfiniaid a gredai fod iachawdwriaeth yn unig ar gyfer yr etholedig rai a chredinwyr bedyddiedig. Ar yr achlysur hwnnw pregethwyd gan wyth o weinidogion yn cynnwys y Parchg Thomas Morris, Casnewydd, rhai yn y Gymraeg ac eraill yn Saesneg, a chafwyd adroddiad pur fanwl ar agor y capel yn Seren Gomer (Mehefin 1821). Ar 4 Hydref yn yr un flwyddyn corffolwyd yr eglwys pryd rhoddwyd yr alwad ffurfiol i’r gweinidog newydd. Roedd maint yr adeilad oddi mewn yn 41 troedfedd wrth 36 troedfedd, heb lofft ynddo, ac wedi ei adeiladu ar ddarn o dir agored gyda mynwent helaeth wrth law. Daeth y gôst am brynu’r adeilad i dros £800 a beichiwyd yr eglwys â dyled o £600. Golygai hynny ymdrech ar ran y gynulleidfa gynyddol i gasglu arian i leihau’r ddyled honno a bu’r  gweinidog newydd ei hun yn gymorth i’w leihau trwy gasglu arian yn y dref. Wedi corffoli’r eglwys rhoddwyd yr alwad ffurfiol i Robert Prichard. Camgymeriad oedd y cyfeiriad yng nghofiant y Parchg Nathaniel Thomas at y corffoli ac agor y capel yr un pryd, a chamgymeriad hefyd oedd nodi yn Llythyr Cymanfa Dwyrain Morgannwg mai yn 1822 y corffolwyd hi. Fe ymddengys fod y Parchg Robert Prichard yn weinidog poblogaidd dros y saith mlynedd y bu yn y Tabernacl, ac yn 1821 cynyddodd nifer yr aelodau i 300. Deuent yno’n bennaf o’r parthau agosaf at y dre fel Llanedern, y Rhath a Thredelerch, ac o’r ffynonellau prin sydd ar gael gwelir bod rhai’n wŷr amlwg yn y dref, fel Evan Llywelyn, ynghyd â ffermwyr, crefftwyr, siopwyr a gweithwyr cyffredin. Wedi i’r gweinidog ymddiswyddo dan gwmwl yn 1828 symudodd i Lancarfan, ac wedi hynny i Garmel, Pontypridd, Nantyglo a Llwynhendy cyn mynd i Lŷn a dod â’i weinidogaeth i ben wedi iddo ddychwelyd i’w gartref yn Ninbych yn 1850 lle bu farw yn Hydref yn flwyddyn honno yn 71 mlwydd oed.

Cyfrannwr: John Gwynfor Jones

‘Hanes y Tabernacl Caerdydd’, Gwasg Gomer, 2013