Pugh – Ernest (1915 – 2002)

O blith yr amrywiaeth o weinidogion Undeb Bedyddwyr Cymru, prin bod un wedi bod gyfeillgar a chefnogol i’w gyd-weinidogion nag Ernest Pugh.  Ganwyd ef yn Stryd y Stag ym mhentref Carmel, nid nepell o Penygroes a Gorslas, ac yno cafodd ef a’i efaill Eynon fagwraeth gartrefol Gristnogol Gymreig gan eu rhieni John a Margaret Pugh.  Yn hynod drist, bu farw y tad yn ifanc iawn, a symudodd y fam a’r bechgyn i aelwyd ei thad-cu a’i mam-gu, aelodau mewn Eglwys o Annibynwyr lleol.  Mynychai Margaret Pugh a’i meibion yr Eglwys Fedyddiedig Carmel, ac yno y meithrinwyd ffydd y ddau. Cafodd Ernest ei fedyddio gan y Parchg T. Mathias Griffiths (1896-1952) a chafodd ei ethol yn ddiacon yn ifanc. Bu hefyd yn gyfrifol am y côr yn yr eglwys.  Ar ôl yr addysg leol yn Nant-y-groes, Milo, Llandybie, aeth i weithio yn y pwll glo lleol, a datblygodd ei sgiliau fel trydanwr. Derbyniodd hyfforddiant yng Ngholeg Technegol, Rhydaman ac yn ddiweddarach yn Abertawe. Bu’n drydanwr yng nglofeydd Saron ger Rhydaman a Pencae Llandybie

Dechreuodd Ernest bregethu yn 1940, ond roedd ei fryd ar fod yn weinidog a mynnodd werslyfrau i’w gynorthwy i gael ei dderbyn yng Ngholeg, Presbyteraidd, Caerfyrddin, a dechreuodd yno yn 1945. Dau o’i gyfeillion yn y Presby  oedd Tudor Williams a W.J.Gruffydd, a gwerthfawrogai’r tri ohonynt arweiniad gadarn y Parchg Tom Roberts, Llanon.  Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu yn Nhachwedd, 1950,  yng  Ngharmel, Eglwys y Bedyddwyr ym Mlaenrhondda, a chael lle i fyw ar y cychwyn yng nghartref J. Arwel Thomas, un a ddaeth yn amlwg yn yr enwad flynyddoedd yn ddiweddarach. Priododd Lydia Roderick yn mis Ebrill 1952, merch a oedd yn enedigol o Gorsddu, Penygroes, Llanelli yng Nghalfaria, Blaenrhondda.  Bu Ernest yn ofalus o fuddiannau Arwel ar hyd y blynyddoedd, ac yn arbennig yng nghyfnod profedigaeth Arwel o golli ei briod yntau.  Roedd y gofal a roddodd Ernest i Arwel mor annwyl ac mor nodweddiadol ohono. Roedd Ernest a’i briod Lydia wrth eu bodd ymysg pobl y Rhondda, a dychwelai yno’n gyson i ymweld â’i ffrindiau ar hyd ei oes.  Yno ganed eu merched Ann ac Elizabeth, ac roedd wrth ei fodd yng nghwmni gweinidogion egnïol y Cwrdd Dosbarth yno.  Byddai’n bugeilio Eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn Ynyswen ac yn pregethu yno unwaith y mis.  Cawsai flas ar ganu hwyliog yn nhraddodiad y Sankey a Moody, a ddefnyddid yno.

Ymhen 13 mlynedd, roedd yn aeddfed i wahoddiad Calfaria, Eglwys y Bedyddwyr yn Llanelli, ac yno y bu am flynyddoedd lawer o 1963 hyd ei farwolaeth yn 2001.   Bu’n weinidog am gyfnod i eglwys Bethania hefyd, gan roi o’i orau i’r ddwy eglwys.  Ymwelai’n gyson gyda’r aelodau, ac roedd yn adnabyddus ar draws y dref.  Roedd ei sgwrs o hyd yn ddifyr a’i gyfeillgarwch yn gyson iawn. Bu’n selog i’r Cwrdd Dosbarth lleol, i Gymanfa Caerfyrddin a Cheredigion ac i gyfarfodydd Undeb Bedyddwyr Cymru.  Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli am flynyddoedd, a bu’n ladmerydd ffyddlon i Gymdeithas Dyrr yr Arglwydd yn y dref.  Ble bynnag roedd pobl y ffydd yn cyfarfod ac yn gweithio, roedd Ernest am  fod yn eu canol, yn cefnogi ac yn cyd-dystio. Mynychai Ysgol Haf y gweinidogion yn selog, ac roedd didwylledd ei weddi, ei sylwadau treiddgar a’i chwerthyn afiaethus yn codi calon pawb. Ymysg amrywiol ddoniau Ernest oedd ei ddawn i chwarae’r ffidl, ac ef oedd trefnydd y gerddorfa yn y Gymanfa Ganu Fedyddiedig, Llanelli. Cafodd flas ar drefnu ymweliad Undeb Bedyddywr Cymru â Chalfaria, pan anrhydeddwyd Mr Harold Thomas, ysgrifennydd yr eglwys â llywyddiaeth yr Undeb.  Bu’n gymwynaswr parod fel trydanwr gyda llawer o eglwysi a nifer o’i gydnabod personol, ac nid oes modd gwybod sawl tŷ a chapel y bu’n ail-weirio, yn aml heb unrhyw gydnabyddiaeth. Nodwyd ei fod yn un o efeilliaid, a thra roedd Ernest yn cadw draw rhag llymeitio mewn tafarn, roedd Eynon yn mwynhau cwmnïaeth achlysurol mewn llefydd felly.  Gan fod y ddau yr un ffunud yn union, byddai rhai yn tybied fod y gweinidog wedi cael ei weld yn prynu diod i eraill.  Byddai Ernest o hyd yn gwadu’r cyhuddiad ac yn egluro’r camgymeriad, ond wrth wneud, yn gweld a gwerthfawrogi’r hiwmor hefyd.

Mewn ysgrif goffa i Ernest yn Seren Cymru, llwyddodd y Parchg W.J.Gruffydd daro nodyn ar ei phen wrth sôn am ddawn naturiol Ernest i weddïo.  Roedd yn gyfrwng bendith i’r sawl a wrandawai’r weddi ac roedd hi’n reddfol i’r gynulleidfa fod mewn cymundeb gyda Duw a chyd-weddïo.  Ceir ysgrif hefyd gan y Parchg Tom Morgan, un arall o gyfeillion oes gweinidog Calfaria, yn cyfeirio at ei weinidogaeth yn yr hyn a wnaeth, a bod ei gymwynasgarwch grasol yn llefaru’n glir beth oedd ei ffydd ac i bwy roedd yn perthyn. Gwyddai beth oedd ei gyfyngiadau ond bu ei dystiolaeth a’i wasanaeth yn olau i’r sawl a fu mewn tywyllwch, ac yn obaith i’r bobl a oedd yn unig neu yn digalonni.

Cynhaliwyd oedfa i ddiolch am ei fywyd yn ei fam-eglwys ac yno daearwyd ei weddillion.  Bu farw ei briod Lydia yn 2010 gan adael eu teulu i gofio’n ddiolchgar am rieni annwyl, a llu o bobl i ddiolch am raslonrwydd bywydau’r ddau.

Cyfranwyr :
Martin Cray
Denzil Ieuan John