Yr Wyddor: G

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Griffiths – John Powell (1875-1944)

Mab oedd  John Powell Griffiths i J. E. Griffiths (1841-1918), gweinidog Horeb, Sgiwen. Ganwyd y tad yn Froncysyllte, a’i godi i’r weinidogaeth ym Mhenycae, lle’r aeth i fyw gyda’i ewythr wedi iddo golli ei rieni yn dair oed.

Darllen mwy »

Garnon – David Carey (1924-1995)

Ganwyd D. Carey Garnon yn 1924 yn Llandudoch, Sir Benfro, yn fab i Mansel Carey Garnon a’i briod Mary Ann (Polly), ac yn frawd hŷn i Mair.  Saer coed ac adeiladwr oedd y tad, ac yn aelod amlwg yn Eglwys Blaenwaun. Ewythr iddo oedd y Parchg Clement Davies, Castell Newydd…

Darllen mwy »

George – Alfred J. (1879-1956)

Ganwyd Alfred J. George yn Bootle, Lerpwl yn 1879 yn fab i Isaac ac Elinor George a brawd i William a Richard George.  Cafodd ei fedyddio yn hen gapel Brazenose Road gan y Parchg J.H. Hughes.  Ychydig yn ddiweddarach, symudodd yr  eglwys i gapel arall yn Balliol Rd, ac yno,…

Darllen mwy »

Griffiths – David (Dafydd) 1881-1921

Un o feibion Bwlch-carreg-y-mynydd,  tyddyn a orweddai ar ymyl y ffordd rhwng Penygroes a Maesybont, Sir Gaerfyrddin – oedd Dafydd. Oddi yma, ar lethrau’r garreg galch, gallai weld, ar ddiwrnod braf, olygfeydd godidog hyd at saith o  siroedd, gan gynnwys ardal Llyn Llech Owain, lle cynhalia’r arloeswr crefyddol tanbaid, y…

Darllen mwy »