Griffiths – David (Dafydd) 1881-1921

Un o feibion Bwlch-carreg-y-mynydd,  tyddyn a orweddai ar ymyl y ffordd rhwng Penygroes a Maesybont, Sir Gaerfyrddin – oedd Dafydd. Oddi yma, ar lethrau’r garreg galch, gallai weld, ar ddiwrnod braf, olygfeydd godidog hyd at saith o  siroedd, gan gynnwys ardal Llyn Llech Owain, lle cynhalia’r arloeswr crefyddol tanbaid, y Parchedig Thomas Morris ( ‘Twm deg capel’, fel y’i gelwid ) ei gyfarfodydd pregethu dros yr hafau.  Yn  ŵyr i John Griffiths un o sylfaenwyr achos Carmel, Llandybie (1860), nid rhyfedd felly i Dafydd yn 1895, ac yntau yn 14 oed, benderfynu mynd trwy ddyfroedd bedydd, dan weinidogaeth y Parchedig David Morgan (Mathryfardd) 1876-1914, yn afon fechan Gwenlais.

Yn dilyn ffyniant y meysydd glo, cododd galwadau newydd am ddiwallu anghenion crefyddol y bobol.Yn 1896, aeth Dafydd gyda’i rieni, John a Mary Griffiths, ynghŷd ag eraill o’r teulu, i gynorthwyo sefydlu achos newydd Bedyddiedig, Calfaria, Penygroes, ychydig filltiroedd i ffwrdd o aelwyd y Bwlch. Roedd rhai o aelodau eglwys Carmel eisoes yn gweithio ym Mhenygroes ac ar adeg tywydd garw’r gaeaf byddent yn lletya yno yn ystod yr wythnos. Teimlent angen fawr am le i gynnal Cwrdd Gweddi a Dosbarth Beiblaidd fel yr arferent yn eu heglwys gartref. Baich ariannol drom i’w hysgwyddo oedd y penderfyniad i adeiladu capel o’r newydd a go denau oedd bywoliaeth yr ychydig rai a fwrodd ati, gan gynnwys teulu’r Bwlch, a werthodd fuwch tuag at y costau. Cymaint eu ffydd.

Ar gymhelliad ei dad, dechreuodd Dafydd – a oedd bellach yn gweithio fel glowr – yn fuan ar waith cyhoeddus ac mae’n debyg iddo gyflawni gwaith defnyddiol iawn yng nghyfnod sefydlu achos newydd Calfaria. Canlyniad hyn oedd iddo ddechrau pregethu yn Ionawr 1901, a hynny ar y testun, “Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? Wrth ymgadw yn ôl dy air Di”. Bu gwirionedd y testun hwn yn llusern iddo gydol ei fywyd.  Ffarweliod â’r lofa ac aeth am ychydig i Ysgol Ganol Llandeilo ac oddiyno i astudio ymhellach yn Ysgol y Gwynfryn a sefydlwyd gan Watcyn Wyn yn Rhydaman.

Rhwng 1908 a 1915, bu Dafydd yn weinidog yn Ainon, Gelliwen a Chwm Meidrym, cyn symud i Galfaria, Treforys. Er na chafodd ei ddonio â thafod arian rhugl, yr oedd ei argyhoeddiad yn ddi-gwestiwn. Meddai ar lais arbennig o dda ac yn ôl cyfaill iddo,  Y Parchedig W J Rhys, Gelli, Rhondda, ” Ni bu ei ddidwyllach yn y weinidogaeth erioed”.

Gweinidogaethodd yng Nghalfaria Treforys adeg y Rhyfel Byd Cyntaf lle gwelodd yr aelodaeth yn dyblu i dros bedwar cant. Ehangwyd y capel yn ystod ei weinidogaeth, ond erbyn 1920 roedd ei iechyd wedi torri ac ar ddydd Gwŷl Dewi 1921 ymadawodd Dafydd â’r fuchedd hon ac yntau yn llai na deugain oed.

Claddwyd ei weddillion daearol ym mynwent Carmel. Gadawodd wraig, Edith a phedwar o blant – Eynon, Glyn, Mari  a Gwyn. Gwasanaethodd Gwyn Undeb Bedyddwyr Cymru yn anrhydeddus fel ysgrifennydd ariannol am flynyddoedd lawer, ynghyd â llenwi pulpudau ar y Sul. Gwerth nodi hefyd o aelwyd grefyddol Bwlch-carreg-y-mynydd ac Eglwys Carmel y galwyd brawd arall i Dafydd, – Stephen Griffiths ( 1893-1967) i’r weinidogaeth a’i ferch yntau, Freda, yn weddw i’r diweddar Barchedig George Elias (1917 – 2010 ).

Cyfrannwr:

Martin Cray a disgynyddion teulu Bwlch-carreg-y-mynydd.

Llyfryddiaeth.

  • Carmel Llandybie. W J Rhys 1960 Gwasg Gomer.
  • Calfaria Eglwys y Bedyddwyr Penygroes M A Griffiths 1996.