George – Alfred J. (1879-1956)

Ganwyd Alfred J. George yn Bootle, Lerpwl yn 1879 yn fab i Isaac ac Elinor George a brawd i William a Richard George.  Cafodd ei fedyddio yn hen gapel Brazenose Road gan y Parchg J.H. Hughes.  Ychydig yn ddiweddarach, symudodd yr  eglwys i gapel arall yn Balliol Rd, ac yno, o dan weinidogaeth Pedr Hir, y dechreuodd Alfred George bregethu.

Ar ôl derbyn ei addysg gynradd yn Lerpwl, aeth i Goleg y Presbyteriaid, Caerfyrddin. Yna i Goleg Prifysgol Cymru Bangor, gan raddio yno gyda B.A. a B.D. anrhydedd dosbarth cyntaf.  Yr oedd yn ysgolhaig disglair mewn Groeg.  Ordeiniwyd ef yn weinidog yn eglwysi Llanberis a Llanrug yn 1909 a bu yno yn fawr ei barch am bymtheng mlynedd. Ei ffordd o fyw oedd wedi gadael argraff ar y gymdogaeth, yn ôl un ffynhonnell. Un o aelodau’r eglwys yn Llanberis oedd Thomas Roland Hughes, ac yn ôl y Parchg Harri Parri, A.J.George oedd ysbrydoliaeth cymeriad y gweinidog yn nofel y llenor ‘O Law i Law’.

Yn 1924, symudodd  i Penuel, Tyddynshon a Llithfaen a gwasanaethu yno’n ddiwyd a llwyddiannus am drideg dau o flynyddoedd. Mwynhäodd yr eglwysi gweinidogaeth lawen a lliwgar y Parchg Clement Davies, gŵr a wnaeth cymaint i’r enwad yn ystod ei gyfnod yntau yng Nghastell Newydd Emlyn, ond tystiodd yr ardal iddynt fwynhau gwasanaeth ddidwyll a goleuedig ei ôlynydd a symudodd o Lanberis yn yr un modd.

Hen lanc oedd Alfred a derbyniodd lety arbennig yng nghartref Hendre Bach gyda teulu ymroddedig Mr a Mrs Roberts. Iard goed oedd Hendre Bach, a byddai’r gweithwyr yn arfer mynd i gegin y tŷ i gael cinio.  Roedd  A.J. George yn gwbl gartrefol yn mwynhau ei bryd bwyd yn eu plith ar hyd y blynyddoedd.  Roedd ci ar yr aelwyd, nad oedd mor amlwg gyfeillgar gyda phawb, ond byddai Mrs Roberts a Mr George yn cael anwylo’r anifail yn ddi-gyfarthiad.  Nid oedd y gweinidog yn medru gyrru, ac roedd gofyn trefnu car i’w gludo i’w gyhoeddiad yn Llithfaen bob prynhawn Sul. Yn ystod y cyfnod hwn gwariodd Eglwys Penuel, Tyddynshon ar atgyweirio’r capel a’i addurno.  Bu’n gyfaill agos i’r Parchg R. H. Williams,  gweinidog yr Annibynwyr yn Chwilog, a dywedir yn llyfr hanes Eglwys Tyddynshon a bod y ddau ohonynt yn gefnogol iawn i Eisteddfod Nadolig yn y pentref, dros gyfnod yr Wŷl.  Y cyfaill o Annibynwr drefnai’r gyfeilliach i weinidogion y fro yn Hendre Bach, a’r Bedyddiwr fyddai’n arwain  y drafodaeth yn y sesiynnau hyn. Cydweithio yn wir.  Y Parchg A. J. George fyddai’n trefnu oedfaon i’r plant ym Mhenuel ac yn teipio’r darnau priodol yn ddestlus iddynt ac roedd ei gyfraniadau yn y cyfarfodydd gweddi wythnosol wedi eu paratoi’n fanwl. Roedd trip yr Ysgol Sul yn ddigwyddiad pwysig a defnyddiwyd dau fws, a gofalai’r gweinidog hynaws i estyn swllt i bob plentyn o’i boced ei hun ar ddechrau’r daith.

Darllenai y testun Groeg wrth fyfyrio yn yr oedfaon hyn. Hawlir mai ef oedd y gweinidog academaidd mwyaf disglair a gafodd yr eglwys ar hyd ei hanes. Roedd ei ddisgleirdeb mewn Groeg cymaint, fel ei fod wedi cael ei ystyried i swydd darlithydd, ond am ba reswm, ni ddigwyddodd hynny.  Dywedwyd amdano bod ei anerchiadau byr fyfyr yn ddealladwy, ond bod ei ddarlithoedd neu ei bregethau o bosibl yn fater arall. Un o blant y fro oedd Gwilym Henry Jones, a elwodd llawer ar ddysg gweinidog Tyddynshon, ac ymhen y rhawg ordeiniwyd y gŵr ifanc yn weinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd, ac yn Athro yn y Gyfadran Ddiwinyddol ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu cyfraniad Dr Gwilym H. Jones yn eithriadol werthfawr  fel awdur, darlithydd a chyfieithydd y testun Beiblaidd, ac mae llïaws o fyfyrwyr yn ei ddyled.  Tystiodd ef yn ddiolchgar am arweinad a dylanwad y Parchg A. J. George arno ym more oes.

Roedd A. J. George yn berson amlwg hynaws ac yn ymwelydd ffyddlon gyda’r cleifion mewn ysbytai.  Ei arfer oedd rhoi orennau i’r cleifion, a byddai’n ymweld a phob claf mewn ward, a byddai pawb yn derbyn ffrwyth ganddo tra roeddent yn ei fag.  Gŵr hael a pharod ei gymwynas oedd ef, a pha ryfedd ei fod yn berson mor boblogaidd yn ei ofalaethau. Os digwyddai i berson fod mewn anhawster neu wedi cael cam, byddai A.J.George yno gyda’r cyntaf i estyn cefnogaeth a chwmniaeth.  Roedd fel ci ag asgwrn wrth ddadlau ei achos,  os digwydd bod rhywyn wedi cael cam, ond er taerineb ei argyhoeddiadau, byddai gweinidog Penuel yn dal ei bwyll a’i reswm bob amser.  Ymysg ei ddiddordebau roedd yn mwynhau canu organ a phiano, ac yn canu gyda thraw perffaith. Roedd o oes cyfeillion y Sol-fa ac yn ymhyfrydu yn hynny.  Nodir yn llyfr dathlu dau gan mlwyddiant Penuel mai gweinidogaethau Clement Davies ac Alfred George oedd y rhai mwyaf dedwydd yng nghof yr eglwys hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Ys dywed un o aelodau’r ofalaeth yn Llanberis –“Cristion yn wir”.

Gwasanaethodd fel llywydd Cymanfa Arfon a’i wneud yn Aelod Anrhydeddus ohoni.  Bu hefyd ysgrifennydd Cwrdd Dosbarth Llŷn ac Eifionnydd am flynyddoedd lawer ac yn Ysgrifennydd Dirwest De Arfon, pwnc agos iawn at ei galon. Yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth, bu’n llywydd Cynghrair Eglwsysi Efengylaidd Gogledd Cymru.

Ni chafodd fwynhau iechyd da, a gwaelodd yn ystod blynyddoedd olaf o’i fywyd. Bu farw yn Ysbyty Lerpwl (Royal Infirmary) ar 26 Medi 1956 yn 77 oed a chladdwyd ei weddillion ym medd y teulu ym mynwent Biwmaris. Hedd i lwch y sant a anwylodd ei gynulleidfa yn enw ei Waredwr.

Cyfrannwyr:

Mrs Nan Parri

Denzil Ieuan John