Garnon – David Carey (1924-1995)

Ganwyd D. Carey Garnon yn 1924 yn Llandudoch, Sir Benfro, yn fab i Mansel Carey Garnon a’i briod Mary Ann (Polly), ac yn frawd hŷn i Mair.  Saer coed ac adeiladwr oedd y tad, ac yn aelod amlwg yn Eglwys Blaenwaun. Ewythr iddo oedd y Parchg Clement Davies, Castell Newydd Emlyn ac roedd yn gefnder i’r Parchg Dr Dafydd Gwilym Davies, cyn brifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd. Bedyddiwyd ef gan weinidog yr eglwys sef y Parchg John Thomas. Roedd Carey wedi dangos diddordeb mewn pregethu  pan yn bymtheg oed, a gwyddai beth oedd cyfeiriad ei fywyd i fod.  Yn ddiddorol, ymdeimlodd ei chwaer Mair Garnon James ag awydd i bregethu hefyd, a hynny pan roedd hithau yn ysgrifennydd gohebol Eglwys Blaenwaun.

Derbyniodd ei addysg gynradd yn yr ysgol leol cyn symud i Ysgol Sir Aberteifi.  Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg y Bedyddwyr yn y ddinas honno, gan raddio gyda B.A. B.D.  Priododd Marion Howells, un a oedd yn enedigol o Dreforys ar 21 Awst, 1951. Cawsant un mab sef Tudor Garnon, ac aeth yntau i fyw yn Ngogledd Ddwyrain Lloegr a gweithio fel cyfreithiwr a barnwr yno.

Ordeiniwyd Carey Garnon i’r weinidogaeth yn eglwys Ruhamah, Penybont ar Ogwr yn 1948, a bu yno am 13 o flynyddoedd. Yn 1961 symudodd i fod yn weinidog ar eglwys Capel Gomer, Abertawe,  ac yn 1966 ychwanegodd Eglwys Bethesda, Abertawe at ei ofalaeth wrth iddo ddilyn y Parchg S. J. Leeke. Nodir bod aelodaeth y ddwy eglwys wedi disgyn dros y degawdau, fel llawer o eglwysi eraill, a pha ryfedd i’r eglwysi yn Abertawe, yn arbennig Bethesda, gydag adeilad enfawr, deimlo na ellid parhau fel eglwys.  Cofir amdano yn y cylchoedd hyn fel pregethwr cadarn a difyr, ac yn gyfaill da i aelodau’r eglwysi.  Prin oedd nifer y teuluoedd ifanc yn Abertawe yn ystod gweinidogaeth Carey, ac roedd y teuluoedd ifanc yn y fro yn fwy tebygol o geisio Ysgol Sul oddi allan i ganol y dref.  Yn ystod y cyfnod hwn bu’n gweithio fel gohebydd llawrydd gyda’r BBC, gan ddwyn amrywiaeth o adroddiadau i’w darlledu, yn bennaf ar raglenni newyddion.  Roedd ganddo ddawn gynhenid i fynd ar ôl yr hanes a’i gyflwyno yn effeithiol mewn ffordd ddifyr a dealladwy i’r gynulleidfa. Dyna oedd nodwedd amlycaf ei gyfraniad yn y pulpud hefyd. Roedd Carey yn bregethwr huawdl yn y ddwy iaith ac yntau yn gymeriad hwyliog yn meddu ar ddoniau cyfathrebu effeithiol. Roedd yn gwmnïwr da, ac yn boblogaidd gyda’i gyd-weinidogion a’r eglwysi.  Roedd ganddo gysylltiadau eang a bu’r cyfan yn fodd iddo gyflawni ei amrywiol swyddogaethau.

Yn 1979, ymddiswyddodd o ofalaeth y ddwy eglwys pan apwyntiwyd ef yn gynrychiolydd y Gymdeithas Genhadol yng Nghymru. Roedd eisoes wedi bod yn gynrychiolydd ar Bwyllgorau y Gymdeithas Genhadol, ac yn ei dro yn gadeirydd y pwyllgor yng Nghymru.  Trefnodd amryw o weithgareddau a bu ef ynghyd â’r Parchg Wynn Vittle, prif swyddog Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn cyd-drefnu apêl enwadol ar gyfer gwaith y ddau gorff ar draws Cymru.  Nôd hynny oedd cefnogi prosiectau cenhadol a datblygiad yn y Congo. Roedd yn siaradwr effeithiol ar ran y Gymdeithas Genhadol yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb, a byddai yn mynychu Ysgol Haf y Bedyddwyr yn gyson.  Yn 1985, wythnosau ar ôl Cyfarfodydd Blynyddol yr Adran Gymraeg a gynhaliwyd yn Clydach,  cafodd ddamwain car erchyll, a bu’n rhaid iddo ildio ei waith o’r herwydd. Ceir erthygl hyfryd yn diolch iddo am ei wasanaeth yn Seren Cymru Mehefin 26 1987 gan y Parchg David Arthur Bowen. Bu ei briod Marion yn ofalus iawn ohono, ond yn 1988, symudodd y ddau i fyw yn agos i’w mab yn Swydd Efrog, gan gadw cyswllt selog gydag amryw o’i gyfeillion yng Nghymru, boed ar y ffôn neu drwy lythyr.  Bu farw yn 1995 a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Cwmgelli ger Abertawe.

Cyfrannnwr: Denzil Ieuan John