Os ydych chi’n fyr ar bethau i ddarllen ar eich gwyliau eleni, pam lai mwynhau newyddion a straeon diweddaraf teulu UBC? Mae rhifyn haf Y Negesydd wedi ei ryddhau yr wythnos hon, ac mae ar gael i ddarllen mewn print ac ar ein wefan.
Rydym ni’n gyffrous i rannu’r newyddion diweddaraf o deulu UBC dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys…
- Straeon am genhadaeth, a dod wyneb yn wyneb â gogoniant Duw yn y greadigaeth ym Mannau Brycheiniog
- Ail-fyw Cynadleddau Haf UBC yn Sir Benfro a Chaerfyrddin.
- Clywed tystiolaethau ffydd yn yr India a Thwrci
Clywn hefyd mor bwysig yw apêl Talentau Gobaith UBC ar gyfer 2023-24, yn wyneb sychder newydd a pharhaol yn Zimbabwe eleni. Gwelwn mor bwysig mae’r gwaith y mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn y wlad, ac fel y mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol a mesuradwy yn y cymunedau yr ydym ni’n eu cefnogi yn uniongyrchol fel teulu UBC.
Darllenwch yma am fwy o newyddion a straeon o deulu UBC yn Y Negesydd: Haf 2024
Gobeithio y cewch fendith o’r rhifyn hwn – boed ei ddarllen gartref, ar ben mynydd, neu ble bynnag y byddwch chi’n eich darganfod eich hunain yr haf hwn!