“Dwi wedi dysgu cymaint dros y flwyddyn o ran fy mywyd Cristnogol a beth mae’n golygu i wneud cenhadaeth a sut mae hwnna’n edrych mewn bywyd o ddydd i ddydd”
(Aelod o’r Tîm i Gymru yn 2019)
Ydych chi’n cofio sylweddoli rhywbeth pwysig nad oeddech chi wedi ei ddeall o’r blaen? Efallai rhywbeth am fywyd, neu fywyd yr eglwys fel y ffaith bod pethau bob amser ychydig yn anhrefnus er gwaethaf pob ymdrech, a bod hynny’n iawn – dyna sut mae Duw’n gweithio? Mae’r adegau ffurfiannol hynny mor hanfodol i’n twf fel Cristnogion, ac os gallwn gael y profiadau hynny fel oedolion ifanc gallant ein paratoi at oes o wasanaeth.
Mae angen dybryd yng Nghymru i ni fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr Cristnogol ac mae angen eich help arnom i wahodd y genhedlaeth hon i dyfu i fod yr hyn mae Duw wedi eu galw i fod. Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diwethaf, mae Undeb Bedyddwyr Cymru unwaith eto wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y genhedlaeth iau drwy gynnig rhaglen blwyddyn i ffwrdd i ddysgu a gweithio fel tîm o dri neu bedwar ochr yn ochr â’r eglwys leol.
Bydd y ‘flwyddyn gap gristnogol’ hon yn cynnwys cydbwysedd o hyfforddiant, profiad ymarferol o genhadaeth yng Nghymru drwy’r eglwys leol, profiad cenhadol mewn diwylliant tramor, twf ysbrydol ac wrth gwrs digon o hwyl! Allwch chi annog Cristnogion ifanc rydych chi’n eu hadnabod i ystyried cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda ni a fydd yn eu helpu i fagu hyder, tyfu yn eu ffydd Gristnogol, datblygu eu doniau unigryw a’u galluogi i ddysgu mwy am galon Duw dros Gymru a’r Byd ehangach?
- Ydych chi’n adnabod person ifanc a allai fod â diddordeb yn Nhîm i Gymru nesaf Cymru?
- Oes gennych chi bobl ifanc yn eich cylch neu deulu sy’n awyddus i gryfhau eu ffydd a datblygu eu rhoddion?
- A oes gennych chi bobl ifanc yn eich eglwys a allai fod â diddordeb yn Nhîm i Gymru 2022 neu yn y dyfodol?
Mae Tîm i Gymru yn rhaglen blwyddyn gap ar gyfer oedolion ifanc Cristnogol rhwng 19 a 25 oed sydd:
- Yn eu cysylltu â grŵp mawr o bobl ifanc debyg iddynt o bob cwr o Gymru
- Yn darparu hyfforddiant a mentora i roi’r hyder iddynt gamu allan o’u ‘parth cysur’ gan wybod bod pobl o gwmpas i’w cefnogi.
- Yn cynnig y profiad ymarferol o weithio ochr yn ochr ag eglwysi lleol sy’n mynd i’r afael â realiti cenhadaeth yng Nghymru.
- Yn mynd â nhw dramor i brofi diwylliant gwahanol a gweld sut mae cenhadaeth yn edrych yn y cyd-destun hwnnw.
- Yn caniatáu i bobl ifanc dyfu yn eu perthynas bersonol â Iesu Grist drwy roi eu ffydd ar waith mewn ffordd radical
Mae manylion llawn am y rhaglen yn ogystal â ffurflen gais ar gael o’r dudalen hon.
“Peidiwch â gadael i neb edrych i lawr arnoch chi oherwydd eich bod yn ifanc” 1 Timotheus 4:12