Wrth i ni agosáu at y Nadolig, dyma ein Llywydd Rob Nicholls yn rhannu ychydig o’i fyfyrdodau am yr wŷl eleni wrth i ni gael cyfle i edrych nôl ar y flwyddyn sydd wedi bod – ac edrych ymlaen at 2026.
Annwyl gyfeillion yng Nghrist,
Wrth inni gyrraedd tymor llawen a disgwylgar y Nadolig, hoffwn anfon fy nymuniadau cynhesaf i bob yr un ohonoch ar ran Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn o newid, her a chyfleoedd i bawb, ac ‘rydym wedi profi unwaith eto sut mae gras a ffyddlondeb Duw yn ein cynnal ym mhob peth. Wrth edrych nôl dros ysgwydd y misoedd, cofiwn yn arbennig am y rhai sydd wedi profi colled, salwch a phryder, ond hefyd cydnabyddwn y llawenydd a’r gobaith a ddaeth inni o berthyn i deulu ffydd a chymuned o gredinwyr, a’r fraint a brofwn wrth wasanaethu yn enw’r Arglwydd.
Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, gwelsom nifer o’n heglwysi’n cymryd camau dewr yn arbrofi gyda’u gweinidogaeth – yn sefydlu hybiau cenhadol lleol, cefnogi ein pobl ifanc, neu’n syml, wrth ymestyn llaw drugaredd at y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Trwy’r cyfan, bu’r Ysbryd Glân yn ein harwain i fyw a thystio i’r efengyl mewn dulliau ffres a newydd. Afraid dweud bod rhai capeli wedi wynebu tristwch a siom wrth orfod dirwyn yr achos i ben – rhai ohonynt yn achosion hynafol a dylanwadol o fewn yr Undeb, ond awn rhagom mewn ffydd gan gredu bod llaw’r tragwyddol yn llywio’r cyfan. “Fel y mae’r nefoedd yn uwch na’r ddaear, y mae fy ffyrdd yn uwch na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi, medd yr Arglwydd” (Eseia 55:9). Diolchwn am y dystiolaeth ffyddlon sy’n parhau o genhedlaeth i genhedlaeth, sy’n dangos mai nid ein hadnoddau ein hunain sy’n ein cynnal, ond cariad di-ddiwedd Crist.
Diolchwn am y dystiolaeth ffyddlon sy’n parhau o genhedlaeth i genhedlaeth sy’n dangos mai nid ein hadnoddau ein hunain sy’n ein cynnal, ond cariad di-ddiwedd Crist.
Rhan ganolog o wyrth geni’r Iesu ym Methlehem yw’r goleuni hwnnw sy’n tywynnu yng nghanol pob tywyllwch—cofiwn mai ef yw ein heddwch, ein gobaith a’n nerth. Mewn byd sy’n teimlo’n ansicr ac yn fregus, mae neges y Nadolig yn ein galw i ailddarganfod y newyddion da sy’n trawsnewid bywydau. Cofiwn yn arbennig y gwledydd a’r ardaloedd amlwg ac anamlwg hynny sydd ynghanol rhyfel a thrais ledled byd. Ganwyd y Gwaredwr mewn stabl syml, ac eto daw ei olau i newid y galon a’r gymdeithas o oes i oes.
Gyda’r Flwyddyn Newydd yn ymagor o’n blaen, daw cyfleoedd mawr i ni fel Undeb Bedyddwyr Cymru barhau i sefyll yn ddewr mewn ffydd, ac i ymrwymo’n ddyfnach i wasanaethu ein cymunedau. Bydd 2026 yn gyfle i adeiladu pontydd newydd, i gryfhau ein cydweithio, ac i wrando ar lais Duw yn ein tywys i’r dyfodol. Yn fwy nag erioed, mae’r byd angen tystiolaeth eglwys sy’n adlewyrchu cariad Crist mewn geiriau a gweithredoedd. Bydded i ni, fel Bedyddwyr Cymru fod yn bobl o obaith, o ffydd a thosturi, gan ddwyn neges ac esiampl Iesu Grist ble bynnag yr awn.
Bydd 2026 yn gyfle i adeiladu pontydd newydd, i gryfhau ein cydweithio, ac i wrando ar lais Duw yn ein tywys i’r dyfodol…
Hoffwn ddiolch o galon i’n gweinidogion, staff yr Undeb, a’n haelodau ffyddlon sydd wedi gweithio’n ddiwyd ac yn ddiflino dros y deyrnas eleni eto. Boed hedd a thangnefedd Crist gyda chwi dros y Nadolig hwn, ac awn ymlaen i 2026 gyda diolchgarwch, dyfalbarhad a gobaith newydd.
Terfynaf gyda geiriau John Roderick Rees – un o’m hoff emynau wrth gyrraedd diwedd blwyddyn ac edrych ‘mlaen mewn ffydd at flwyddyn newydd arall:
“ …. a ni wrth borth y misoedd
yn ffyddiog am y ddaw,
ar drothwy daith anesgor
gafaelwn yn ei law.”
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd yn enw ein Harglwydd Iesu Grist.
Yn ddidwyll ac mewn gwasanaeth,
Rob Nicholls
Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.
Ac oddi wrth bawb yn UBC… Nadolig Llawen!