Mae Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop (EBF) wedi lawnsio Apêl Gaeaf, i gefnogi’r Eglwys yn Wcráin. Y nod yw bod 500 o eglwysi lleol yn Wcráin yn cael eu galluogi i ddarparu llety, cynhesrwydd a nwyddau angenrheidiol i bawb mewn angen y gaeaf hwn.
Fel teulu Bedyddiedig yng Nghymru, rydym am sefyll gyda’n chwiorydd a’n brodyr sydd yn parhau i ddioddef effeithiau rhyfel, yn enwedig rhai sydd yn ymwneud â thargedu adnoddau egni holl-bwysig.
Byddai rhodd o £2000 o eglwysi Bedyddiedig yng Nghymru yn darparu digon o wres ar gyfer eglwys yn Wcráin ar gyfer y gaeaf i gyd.
Allech chi ymuno gyda ni wrth i ni sefyll gyda’n brodyr a chwiorydd yn Wcráin y gaeaf hwn?
Ymunwch â’r Apêl
Os ydych yn medru dangos eich cefnogaeth y Nadolig hwn, anfonwch eich rhoddion at ‘Baptist Union of Wales’ trwy siec neu drosglwyddiad banc, os gwelwch yn dda.
Trosglwyddiad BACS i:
Enw Cyfrif: The Baptist Union Of Wales
Rhif Didoli: 60-83-01
Rhif Cyfrif: 2049 4968
Bank: Unity Trust Bank
Sicrhewch bod eich rhodd yn cynnwys y cyfeirnod ‘Wcráin’.
Sieciau yn daladwy i ‘The Baptist Union of Wales’. Postio Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Job’s Well Road, Carmarthen SA31 3HB. All money donated by 31st January 2026 will be sent to the ‘Hope Heats’ appeal at EBF.
Lledu’r Gair
Allen ni ddim gwneud hyn heb eich cymorth chi yn lledu’r gair – gyda’ch eglwys, eich cymuned, neu eraill yr ydych chi’n meddwl y byddai’n hoffi cefnogi ein chwiorydd a’n brodyr yn Wcráin y gaeaf hwn.
Gallwch lawrlwytho’r sleidiau isod, i’w defnyddio yn eich eglwys neu eich grŵp wrth ledu’r gair:
