Tîm i Gymru – tair blynedd yn ddiweddarach…

Yn ôl yn 2018-2019 cawsom Dîm i Gymru gwych ar leoliad yn Arfon, Gogledd Cymru. Dyma ni’n penderfynu dal i fyny gydag Eleri, Gruff a Hannah i weld lle mae Duw wedi eu harwain ers bod ar y tîm… 

Helo! Mae’n wych cael bod gyda chi i gyd! Dywedwch wrthyn ni’n gyntaf be wnaethoch chi nesam ar ôl bod yn rhan o Dîm i Gymru? 

G: Roeddwn i’n ansicr iawn pa lwybr roedd Duw eisiau i mi ei ddilyn – addysg neu’r weinidogaeth. Felly es i i wneud blwyddyn fel cynorthwyydd addysgu Mathemateg i gael mwy o brofiad ar yr ochr honno, a helpodd hynny fi i benderfynu o blaid gweinidogaeth! Felly, gwnes i gais i interniaeth UBC a dysgu llawer trwy’r profiad cyn dechrau ar astudiaeth ddiwinyddol yng Ngholeg Bedyddwyr Caerdydd. 

Bendigedig. A Hannah, rydyn ni’n gwybod eich bod chi wedi dilyn llwybr tebyg. Eleri, beth oedd eich camau nesa chi te? 

E: Roeddwn i wedi disgwyl gwneud astudiaethau pellach, ond fe gaeodd Duw y drws hwnnw ac agor un arall gyda chwmni yswiriant yng Nghaerdydd. Ond cafodd fy nhîm ei ddiswyddo yn ôl yn yr hydref ac roedd yn edrych fel y gallai Duw fod yn dweud ei bod yn amser i mi fynd yn ôl i astudiaethau polisi cymdeithasol. Ac yn ddigon rhyfedd, ces i swydd gyda Chymorth Cristnogol a chefais fy nerbyn ar gwrs meistr rhan-amser, a’r ddau beth yn cyd-fynd yn dda dros ben! 

Gwych iawn. Felly, gan fod rhai blynyddoedd wedi mynd heibio bellach, wrth i chi edrych yn ôl ar eich amser ar y flwyddyn fwlch, beth fyddech chi’n ei ddweud yw’r prif bethau a ddysgoch chi o’r profiad hwnnw gyda ni? 

H: Rwy’n meddwl i bob un ohonon ni un peth mawr oedd pa mor hanfodol yw gweithio fel tîm a gweithio’n dda ochr yn ochr â phobl eraill! Roedd gan bob un ohonom sgiliau a chryfderau gwahanol felly roedd yna broses bwysig o weithio allan beth oedd fy rhai i, beth oedd eu rhai nhw… 

G: Yn union. Gall fod mor hawdd rwy’n meddwl i gael rhyw feddylfryd o fod yn ‘fand un dyn’, ond mewn gwirionedd pan fyddwch yng nghanol pethau rydych chi’n sylweddoli bod angen i chi rannu’r baich. Ac mae hefyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth o ran prosesu pethau. 

E: Roedd hefyd yn baratoad da iawn ar gyfer bywyd go iawn – pethau fel cymryd rhan ym mywyd arferol yr eglwys, gorfod dod i arfer â ffyrdd amrywiol pobl o fynd ynghylch pethau, a jest bod yn Gristion mewn ‘bywyd go iawn’ yn hytrach nag yn y Brifysgol neu gartref. Wnaeth y peth wir osod sylfeini pwysig i mi fel Cristion. 

G: Ac un peth arall – ces i’r cyfle i bregethu am y tro cyntaf, dim ond pythefnos i mewn i’r flwyddyn ac yna drwy gydol y flwyddyn! Sy’n teimlo’n brofedigaethol, o ystyried yr hyn rwy’n ei wneud nawr. 

Diolch am rannu hynny i gyd. Felly beth ydych chi’n meddwl bydd y dyfodol yn dal i chi? 

G: Wel, dim ond Duw sy’n gwybod beth sydd ganddo i lawr y lôn i ni ond rwy’n parhau â’m hastudiaethau a gobeithio y bydda i wedyn yn mynd i mewn i’r weinidogaeth gyda’r Bedyddwyr. 

E: Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd i ddechrau gyda’r pandemig a bod mewn dinas newydd i ymgartrefu mewn eglwys, ond rydw i bellach wedi dod o hyd i un, ac mae hynny yn fendith fawr. Felly rhwng hynny, setlo i mewn i’m swydd a’m cwrs meistr rwy’n teimlo bod gen i ddigon i ganolbwyntio arno am y tro! 

H: Ar hyn o bryd rwy’n gwneud hyfforddiant cenhadol fel rhan o’m hinterniaeth eglwys, ac rwy’n teimlo galwad i genhadaeth yng Nghymru. Bydd angen i mi weld pa fath o weinidogaeth genhadol y mae Duw yn fy ngalw iddi…. 

Diolch i chi i gyd a byddwn ni’n parhau i weddïo dros law Duw ar eich bywydau chi. 

Ac mae Tim i Gymru yn ôl ar gyfer 2022! Ydych chi’n nabod oedolion ifanc allai fod â diddordeb? Sydd eisiau gwasanaethu Duw yn dros y flwyddyn nesa? Mae manylion llawn am y rhaglen yn ogystal â ffurflen gais ar gael o’r dudalen hon

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »