Rydym ni’n hysbysebu: Swydd Gweinyddydd Dros Dro…

Cyfle i ymuno â thîm UBC: rydyn ni’n hysbysebu am Weinyddydd Dros Dro (16 awr yr wythnos).

Rydym ni’n bwriadu apwyntio Gweinyddydd dros dro (16 awr yr wythnos) dros gyfnod absenoldeb mamolaeth.

Lleoliad: Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin

Pwrpas y Swydd: Cyflawni ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol er mwyn sicrhau bod y swyddfa yn rhedeg yn esmwyth

Dyddiad cau: 10fed o Dachwedd.

Gwahoddwn ymgeisiadau gan ymgeiswyr sydd yn ddwyieithog / yn medru’r Gymraeg.

Gweler yr hysbyseb swydd a mwy o wybodaeth isod:

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Oedfa Ilston Flynyddol – ym Mro Gŵyr

Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr. Bydd yr Oedfa eleni yng ngofal y Parchedig Rob Nicholls, gyda chefnogaeth a chyfraniad wrth eglwysi a gweinidogion lleol ac yn cychwyn…

Darllen mwy »

Esgyn 2025 – cadw lle nawr!

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni! Mae’r ffurflen i gadw lle yn fyw nawr – cynta i’r felin…

Darllen mwy »

Drysau agored yng Nghwm Rhondda?

Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.” Roedd Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol…

Darllen mwy »