Rydyn ni’n hysbysebu! Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

A oes gennych brofiad neu ddiddordeb yn y maes eiddo?

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i’r swydd ganlynol i weithio fel rhan o dîm ymroddedig sy’n darparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth i’n Heglwysi:

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Lleoliad: Caerfyrddin.

Cynigir patrwm gwaith hyblyg gyda chyfleon i weithio o adref ond disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus dreulio cyfnod o dan hyfforddiant a chyfnodau penodol yn gweithio o’r swyddfa yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws Cymru.

Pwrpas y Swydd: I fod yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a chyfarwyddo Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion mewn perthynas â materion eiddo ac i ddelio’n uniongyrchol ag eiddo sydd yng ngofal Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar agwedd gadarnhaol tuag at amcanion eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru ynghyd â phrofiad neu ddiddordeb yn y maes eiddo ac yn medru cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyflog: £27,485.45 – £28,438.70

Oriau: 35 awr yr wythnos

Ystyrir ceisiadau ar gyfer rhannu swydd. Dyddiad cau: 29 Ebrill 2024 Dyddiad cyfweld: 10 May 2024

Dyddiad cau: 29 Ebrill 2024

Dyddiad cyfweld: 10 May 2024

Disgrifiad Swydd Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â Dr Christian Tucker-Williams ar 0345 222 1514 neu neu christian@ubc.cymru

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn 2025 – cadw lle nawr!

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni! Mae’r ffurflen i gadw lle yn fyw nawr – cynta i’r felin…

Darllen mwy »

Drysau agored yng Nghwm Rhondda?

Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.” Roedd Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol…

Darllen mwy »

Bedyddiadau’r Pasg

Fel Bedyddwyr rydym wrth ein bodd yn dathlu’r ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu sy’n digwydd mewn bedydd crediniwr! Cynhaliwyd llu o Fedyddiadau ledled Cymru dros benwythnos y Pasg…

Darllen mwy »