Bedyddiadau’r Pasg

Fel Bedyddwyr rydym wrth ein bodd yn dathlu’r ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu sy’n digwydd mewn bedydd crediniwr! Cynhaliwyd llu o Fedyddiadau ledled Cymru dros benwythnos y Pasg. Dyma gipolwg o lond llaw o’r straeon hynny: 

“Fe wnaethon ni gynnal gwasanaeth bedydd i ferch a gafodd ei magu yn yr eglwys ond sydd bellach yn y brifysgol ac yn parhau i fod yn rhan o deulu yr eglwys yma.  Bedyddiodd ei Thad-cu, y Parch Arfon Thomas (cyn-weinidog yr eglwys yma ym Methlehem), ynghyd â’i thad hefyd sy’n un o arweinwyr addoliad Bethlehem.  Roedd yn bleser i mi lywyddu dros y gwasanaeth a dod â gair Duw a’i weld yn symud mewn ffyrdd pwerus yn ystod yr holl wasanaeth.  Daeth dau berson arall ymlaen ar ddiwedd y gwasanaeth yn eisiau cael eu bedyddio, felly byddwn yn ail-lenwi’r pwll eto cyn bo hir! Molwch yr Arglwydd!” 

Wrth Eglwys Bethlehem, Spittal 

“Roedden ni, yn Eglwys Bethesda, Neyland yn falch iawn o nid yn unig ddathlu atgyfodiad Iesu Grist ond o allu rhannu newyddion am ein bedydd cyntaf yn ein heglwys ers rhyw 20 mlynedd! Mae’r gŵr arbennig hwn wedi bod yn chwilio trwy gydol ei oes am atebion. 
  
“Ceisiwch yr Arglwydd, a bydd yn cael ei ddarganfod!” 
  
Cerddodd i mewn i’n heglwys ddwy flynedd yn ôl pan arweiniodd yr Ysbryd ef i chwilio am astudiaeth Feiblaidd ac i fod gydag eraill a oedd yn adnabod yr Arglwydd. Haleliwia a chlod i’r Arglwydd yn wir ei fod wedi cael ei newid, ei drawsnewid a’i eni o’r newydd. Mae heddwch, dealltwriaeth a thawelwch bellach yn treiddio ei gorff a’i feddwl!  Ers dinistrio ein bedyddfa yn y capel, defnyddiwyd y pwll a welwch yn y llun fel bedyddfa benigamp!” 

Bethesda, Neyland 

“Roedd yn ddiwrnod hyfryd yn The Village Chapel (Eglwys y Bedyddwyr Johnston)! Ar Sul y Mamau daeth dyn â’i gariad i’r eglwys a derbyniodd hi Iesu Grist fel ei Gwaredwr.  Yr wythnos ganlynol, dywedodd wrthym ei bod hi’n darllen y Beibl yr oeddem wedi’i roi iddi yn gyson ac wrth i ni siarad â hi am fedydd prin y gallai hi aros.  Roedd ei chariad yn gredinwr, ond nid oedd yn cerdded gyda’r Arglwydd ac roedd eisiau cael ei fedyddio ynghyd â hi.  Felly, ar Sul y Pasg cawsom y bedydd.  Maen nhw’n wynebu heriau, ond yn dysgu pwyso ar Iesu a’r gymdeithas eglwysig am gryfder a doethineb a thwf.  Molwch yr Arglwydd!” 

Eglwys y Bedyddwyr Johnston, Hwlffordd 

Mae straeon yr unigolion hyn a’u heglwysi i gyd yn wahanol – o ran oedran, cefndir a llwybr bywyd. Ond maen nhw i gyd yn unedig yn eu bedydd fel credinwyr yn enw Iesu Grist! 

Beth am gymryd eiliad i weddïo dros y credinwyr newydd hyn a’u heglwysi? 
  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Oedfa Ilston Flynyddol – ym Mro Gŵyr

Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr. Bydd yr Oedfa eleni yng ngofal y Parchedig Rob Nicholls, gyda chefnogaeth a chyfraniad wrth eglwysi a gweinidogion lleol ac yn cychwyn…

Darllen mwy »

Esgyn 2025 – cadw lle nawr!

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni! Mae’r ffurflen i gadw lle yn fyw nawr – cynta i’r felin…

Darllen mwy »

Drysau agored yng Nghwm Rhondda?

Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.” Roedd Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol…

Darllen mwy »