Rydym wedi CERDDED! dros fil o filltiroedd…

Mae eglwysi ac unigolion ar draws teulu Undeb Bedyddwyr Cymru wedi llwyddo i gerdded dros fil o filltiroedd (1090.35 yn fanwl gywir!) i godi arian a chefnogaeth i gymunedau yn Simbabwe sy’n dioddef o dan effeithiau newid hinsawdd. Mae hyn ymhell dros y nod gwreiddiol o 750 o filltiroedd – llwyddiant ysgubol felly! 

Pob cwr o’r wlad 

Aeth aelodau a grwpiau i bob cwr o’r wlad i godi arian. Er enghraifft, fe ddaeth eglwysi Cylch Carn Ingli at ei gilydd ar Sul cyntaf Awst i gynnal teithiau cerdded ar hyd rhai o lwybrau Cwm Gwaun gydag 16 ohonynt yn cerdded 3 milltir a hanner, naw yn cerdded dwy filltir a naw arall yn cerdded taith o filltir. Gorffennodd pawb yn festri Jabes lle unodd eraill ar gyfer oedfa fer gyda chyflwyniad Power point yn sôn am yr apêl. Wedi’r oedfa parhawyd i gymdeithasu o gwmpas y byrddau ar gyfer te blasus iawn. A thrwy ymdrechion cerddwyr Cylch Carn Ingli fe lwyddwyd i ychwanegu 83 o filltiroedd at y cyfanswm cerdded a llwyddwyd i godi £830 at yr apêl. 

Yn ne Sir Benfro, aeth criw o eglwys Mount Pleasant am dro yn ardal Ystagbwll a Bosherston, tra bod taith arall wedi cymryd lle ym Mae Colwyn – ar yr arfordir gogleddol. Efallai fodd bynnag mai’r ymdrech lewa oedd eiddo Llinos a gwmpasodd arfordir Penfro, bryniau Dyfed ac arfordir Môn ar ei theithiau! 

Cyfrannu i gloi’r apêl 

Mawr yw’n diolch felly i bob un a gymerodd ran yn y daith – trwy gerdded, trwy drefnu ac mewn gweddi. Mae dros £15,000 eisoes wedi dod i law, a fydd yn mynd i Gymorth Cristnogol – ond mae amser o hyd i gronni’r arian a’i gyfrannu.  

Ac mae gennym rhwng nawr a’r Nadolig un cyfle arall i godi arian: 

  • Gallwch godi nawdd ar gyfer y milltiroedd yr ydych chi wedi eu cerdded. (e.e gallwch addasu dudalen JustGiving Talentau Gobaith yma ar gyfer eich teithiau eich hunan). 
  • Gallwch ofyn am gyfraniadau gan y sawl sydd wedi dod ar daith – neu sy heb wneud ond am gefnogi ta beth. 
  • Gallwch ddarparu danteithion e.e pobi teisennau, neu drefnu digwyddiad i nodi diwedd y daith. 
  • Defnyddiwch adnoddau apêl Talentau Gobaith i addysgu’r rhai sy’n mynychu am waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe, a sut maen nhw’n gallu cyfrannu. 
  • Neu anfonwch siec at: Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ gan wneud y sieciau yn daladwy i ‘Undeb Bedyddwyr Cymru’ ac ysgrifennu ‘Apêl Cymorth Cristnogol’ ar y cefn (noder na allwn dderbyn ‘Rhodd Gymorth / Gift Aid’ trwy’r dull hwn) 

Diolch! 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Dychwelyd i Gymru!

O Sir Benfro, i’r UDA ac yn ôl eto! Mae hanes Jeff a Colleen Richards am sut y galwyd nhw i Gymru yn un sy’n ymestyn dros bedair cenhedlaeth ac yn dangos i ni ddyfnder calon Duw… 

Darllen mwy »

Dod i nabod… Gwyn Morgan

Braf cael sgwrs, Gwyn. Allech chi rannu ychydig gyda ni am eich stori bywyd a ffydd? Ces i fy ngeni a’m magu yn Nhrecynon, Aberdâr. Bum yn selog yn Eglwys Fedyddiedig Noddfa, Trecynon…

Darllen mwy »