Rydym yn falch iawn o rannu bod UBC yn lansio cynllun hyfforddiant newydd eleni, o’r enw’r ‘Cynllun Disgyblion Cenhadol’.
Dyma gyfle arbennig i dreulio blwyddyn yn tyfu yn eich ffydd, datblygu eich doniau, a phrofi galwad mewn cyd-destun gweinidogaeth fywiog a chefnogol.
Ydych chi (neu rywun rydych chi’n ei nabod) yn oedolyn ifanc sydd yn ystyried cymryd ‘amser allan’, dyfnhau eich perthynas gyda Duw, archwilio eich galwad, neu ymwneud â chenhadaeth? Carem glywed oddi wrthych chi os felly!
Rydym yn lansio dau gynllun ‘hyfforddiant’ newydd ochr yn ochr eleni: un Flwyddyn Cynllun Disgyblion Genhadol wedi’i lleoli yn Eglwys y Bedyddwyr Caersalem (iaith Gymraeg), a’r ail yng Nghymanfa Bedyddwyr Gwent (iaith Saesneg). Bydd y ddau yn dechrau ym mis Medi 2026.
Os ydych chi’n nabod pobl ifanc a chanddynt galon dros genhadaeth neu ddiddordeb yn y weinidogaeth – cyfeiriwch nhw aton ni! Croesewir ceisiadau tan y 19eg o Fehefin. Gallwch ddarganfod mwy yn y posteri atodedig neu trwy gysylltu â carwyn@ubc.cymru.