Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu hi’n hyfryd croesawu nifer o aelodau newydd i’n Cymuned Ddysgu Gweinidogaeth Cenhadol newydd. Wrth i ni glywed eu straeon, cawn ein hatgoffa unwaith eto sut mae’r Arglwydd yn parhau i alw pobl i waith ei Deyrnas yma yng Nghymru. Yn y rhan gyntaf hon, clywn straeon Ruth a Donna yn cael eu galw i genhadaeth…
Hanes Donna
Mae Donna yn hanu o Sir Benfro, wedi’i magu ym Mwlch y Groes, Crymych. Mynychodd Donna yr ysgol Sul a’i bedyddio yng Nghapel Blaenffos cyn dychwelyd i gapel gwreiddiol y teulu: Capel y Bedyddwyr Star. Magwyd Donna ar aelwyd y capel – ond rhanna gyda ni am daith bersonol ffydd a galwad y mae wedi bod arni dros y blynyddoedd diwethaf.
Teimlodd Donna synnwyr o alwad gryf yn bennaf wrth iddi ddarllen rhannau o’r Beibl.
Rhai o’r geiriau a darodd Donna yn gryf oedd geiriau’r Arglwydd Iesu yn Luc 23:46 pan ddywed ar y groes “yn dy ddwylo y cyflwynaf fy ysbryd’. Er mai geiriau’r Arglwydd yw y rhain i’r Tad – teimlodd Donna fod gwahoddiad iddi hi weddïo’r un geiriau dros ei bywyd hi ei hunan. Teimlodd alwad i roi ei bywyd yn llwyr i ofal Duw.
“Teimlodd Donna fod gwahoddiad iddi hi weddïo’r un geiriau dros ei bywyd hi ei hunan. Teimlodd alwad i roi ei bywyd yn llwyr i ofal Duw.”
Darlleniad arall pwysig a gyfrannodd at yr ymdeimlad o alwad oedd Ioan 2:1-7 pan ddisgrifia Ioan weledigaeth y saith seren a chanhwyllbren. Clywodd Donna ddehongliad ysbrydoledig ohono a gyffyrddodd â hi: mai ni, fel Cristnogion yw’r sêr yn nwylo Crist, a bod gwahoddiad i ni dywynnu Ei oleuni ymhlith y cenhedloedd.
Gyda’r ymdeimlad hwnnw o alwad, mae Donna wedi bod yn archwilio ei galwad i weinidogaeth genhadol. Rhan o’i hangerdd a’i brwdfrydedd wrth edrych ymlaen yw bod Cristnogion yn dod i ddeall eu bod i fod yn ddrych o waith yr Arglwydd, a bod galwad i ni ymestyn allan i rai sydd y tu allan i gymuned ffydd.
Gwêl hefyd bwysigrwydd ffydd o ran iechyd meddwl – ac mae am archwilio sut i annog eraill i weld ffydd fel rhan hollol allweddol o’n cymunedau.
Hanes Ruth
Dechreuodd Ruth ei thaith i’r weinidogaeth yng Nghymru tra’i bod yn astudio mewn Coleg Beiblaidd yn Horsham, Lloegr. Aeth Ruth i’r Coleg ar ôl profi ‘hunlosg’ (burnout) fel gweithiwr Plant ac Ieuenctid prysur. Rhanna Ruth: “Fe es i trwy amser anodd yn bennaf achos fy mod i’n caru ‘gwneud’… a doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gweddi o gwbl.”
Yn ystod ei hamser yn adfer, fe wnaeth rhieni Ruth symud i Dŷ Ddewi. Pan wnaeth Ruth ymweld â nhw, cyfarfu â grŵp o bobl o blaniad eglwys Fedyddiedig newydd o’r enw ‘Y Groesfan’.
Pan aeth hi yn ôl i barhau gyda’i hastudiaethau yn Lloegr, fe wnaeth pethau ddechrau newid. Ei geiriau hi oedd: “doedd yn llythrennol ddim bwriad gen i i symud i Dŷ Ddewi” ond fe ddigwyddodd rhywbeth y gallai hi ond esbonio fel “Duw-foment” mewn cwrdd gweddi.
Yn sydyn, ac yn gryf iawn – fe wnaeth Ruth deimlo cariad Duw ar gyfer pobl Tŷ Ddewi, a daeth yr adnod hwn iddi: “Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat.” (Hebreaid 13:5). Gwelodd hefyd lun clir o fodrwy yn mynd ar law – fel yn Haggai 2:23 – a synnwyr clir y dylai symud i Dŷ Ddewi.
“Yn sydyn, ac yn gryf iawn – fe wnaeth Ruth deimlo cariad Duw ar gyfer pobl Tŷ Ddewi…”
Ychydig yn ddiweddarach, fe wnaeth ffrind oedd yn gweddïo dros Ruth ddweud wrthi ei bod wedi gweld llun yn ei meddwl o Dduw yn rhoi modrwy ar law Ruth – a bod Duw yn dweud wrthi hi “Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat”. Gofynnodd y ffrind a oedd hyn yn golygu rhywbeth iddi. Fe wnaeth ffrind arall oedd yn gweddïo drosti rannu ei bod wedi teimlo bod Duw yn galw Ruth i wneud rhywbeth penodol, ac y “dylai ei wneud”!
Yn y pen draw, fe wnaeth Ruth ildio i’r synnwyr clir bod Duw yn ei galw. Ymunodd hi ag eglwys ifanc Y Groesfan a helpu cyd-arwain yr eglwys yn wirfoddol rhwng 2011 a 2014, yn ogystal â gweithio’n lleol mewn nifer o swyddi er mwyn dod i adnabod y gymuned yn well.
Er bod Ruth wedi camu’n ôl o’r weinidogaeth mewn ffordd uniongyrchol yn Nhŷ Ddewi – disgrifia sut y mae’r tymor presennol hwn wedi bod yn ffrwythlon o ran cenhadaeth!
Mewn cam ffydd, fe wnaeth Ruth leihau ei dyddiau gwaith i dridiau yr wythnos, ac mae hyn wedi rhoi mwy o amser iddi ymwneud â’r gymuned leol. Fel nifer ohonom, darganfu fod nifer yn dod yn fwy ac yn fwy agored i drafod materion ffydd, a chafodd nifer o sgyrsiau arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwn. Dychwelodd Ruth hefyd i alwad gyntaf gweddi, ac mae hi’n parhau i fynd ar deithiau gweddi o leiaf ddwywaith yr wythnos yn yr ardal leol.
Golygai’r newid tymor hefyd fod Ruth wedi medru ymwneud gyda Hyfforddiant Gweinidogion Cenhadol UBC, ac mae’n parhau i archwilio ei galwad i genhadaeth – ble bynnag y bydd Duw yn ei harwain!
Gweddïwn bob bendith ar Donna a Ruth wrth iddynt archwilio eu galwad i genhadaeth yng Nghymru!