Mae’r Parchedig Phil Wyman wedi croesi’r Iwerydd i ddod i Gymru sawl tro o’r blaen, ond y tro hwn dod i aros y mae. ‘Y tro cynta i mi ymweld â Chymru oedd yn 2003, ac erbyn hyn dwi’n nabod cannoedd o bobl ar draws y wlad.’ Cyrraedd yn nhre’r Cofis mae Phil ar ddechrau Mai eleni, i weithio gydag eglwys Caersalem, Caernarfon – ac mae ganddo weledigaeth gyffrous.
Anffyddiwr oedd Phil yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ac roedd yn hoff o ddadlau gyda’r Cristnogion ar ei gwrs. Ond newidiodd pethau’n sydyn iddo. ‘Mae’r peth yn gwneud i mi chwerthin o hyd! Ges i’r teimlad bod rhywun yn rhoi clatshen i mi ar y ‘ngwyneb, a’r gair ‘Duw’ yn dod i fy meddwl o nunlle. A digwyddodd y peth ail dro, a’r tro hwn daeth y frawddeg ‘Jesus died for your sins’ i fy mhen. Roedd y peth yn anhygoel – ond ron i’n gwybod ei fod yn arwydd clir i mi wrth y Duw hwn roeddwn wedi bod yn dadlau yn ei erbyn.’
Fe ddaeth Phil yn Gristion a thaflu ei hunan i fywyd yr eglwys, gan helpu gyda rhaglen adfer ar gyfer pobl ar gyffuriau ac alcohol, a phenderfynu wedi pedair blynedd i fynd yn weinidog.
Y gymuned baganaidd
O’r cychwyn cyntaf roedd ganddo faich dros fudiadau crefyddol newydd – pobl ar yr ymylon a rhai mewn ‘cwltiau’. Dyna’i arweiniodd i Salem, Massachussets – canolfan fawr i’r gymuned neo-baganaidd yn America lle mae miloedd yn heidio bob Calan Gaeaf. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog mewn eglwys yno, a dechrau sylweddoli bod natur y gymuned yn meddwl y dylai Cristnogion y cylch ganolbwyntio ar ddod i ddeall y gymuned baganaidd, er mwyn eu gwasanaethu a rhannu’r efengyl gyda nhw. ‘Does neb yn disgwyl i Iesu droi i fyny ar ganol digwyddiad Halloween – ond pam lai?’ meddai gyda gwên.
Ac felly dyma nhw’n llogi stondyn, gan gynnig pethau fel ‘Psalm reading’ yn hytrach na ‘Palm reading’, ac mewn fawr o dro roedd pobl yn dod i chwilio amdanyn nhw bob blwyddyn, yn awchu am gael glywed rhagor am y byd ysbrydol hwn oedd mor wahanol i fyd ysbrydol gwrachod a phaganiaeth fodern.
Cymru
Dyma ddaeth â Phil i Brydain, a dechreuodd grwpiau fel y Church Mission Society ofyn iddo rannu ei brofiadau cenhadol gyda nhw a hyfforddi eu pobl. Ond roedd bob amser yn teimlo ysfa i lefydd ar yr ymylon, a phan ddaeth i nabod Cymru, a’i hiaith a’i diwylliant unigryw gwpwl o oriau yn unig i ffwrdd o Lundain, cafodd ei hudoli.
Dyma Dduw yn agor drysau iddo a byddai’r ymweliadau â gwledydd Prydain yn mynd yn flynyddol, a datblygodd weinidogaeth mewn gwyliau haf – llefydd fel yr Eisteddfod, Burning Man festival, Gŵyl y Gelli Gandryll ayyb. ‘Y gwirionedd yw,’ meddai Phil ag angerdd yn ei lais, ‘yn y mannau hyn mae pobl yn ein cymdeithas ni ar eu mwya agored. Lle byddai pobl efallai ddim yn fodlon cael sgwrs ysbrydol yn y swyddfa neu ar y trên, pan fyddan nhw’n gadael eu gwallt i lawr mewn gŵyl, gelli di siarad yn blaen am bethau mawr bywyd yn llawer mwy agored. A dwi’n argyhoeddiedig bod angen i Gristnogion fod yno – yn gwrando, yn ceisio deall ac hefyd yn rhannu newyddion da Iesu gyda phobl.’
Datblygodd y cysyllltiadau gyda Caersalem dros amser, ac erbyn 2016 roedd Phil wedi sylweddoli bod Duw yn agor y drws iddo weinidogaethu’n llawn amser yma yng Nghymru. Bwriodd ati i ddysgu’r Gymraeg, ac mae’n siwr y bydd lleoliad yng Nghaernarfon o fudd mawr iddo ddod i nabod y diwylliant yn drwyadl.
Meddai Rhys Llwyd, gweinidog Caersalem, ‘”Fe wnes i gyfarfod â Phil am y tro cyntaf 17 mlynedd yn ôl pan ddaeth fel rhan o dîm i helpu rhedeg y Gorlan goffi yn yr Eisteddfod ac rydym wedi cadw cysylltiad ers hynny. Yn Phil mae nifer o fydoedd yn dod ynghyd – yn amlwg ei ffydd Gristnogol, ond hefyd ei ddiddordeb mewn athroniaeth, cerddoriaeth a diwylliant yn gyffredinol. Mae’n llwyddo i bontio’r drafodaeth rhwng y bydoedd hynny mewn ffordd nad yw Cristnogion a’r eglwys yn gyffredinol wedi llwyddo i wneud yn ddiweddar. Rwy’n disgwyl ymlaen i groesawu Phil atom a’i weld yn cyfrannu at y sgwrs sydd angen digwydd ynglŷn â sut mae rhannu a byw’r ffydd Gristnogol yn y cyfnod ôl-Gristnogol yma.”
Gweledigaeth
‘Fy ngweledigaeth yw i helpu Cristnogion Cymru i feddwl mewn ffyrdd newydd a chreadigol ynglŷn a sut mae rhannu eu ffydd. Dwi’n gweld y diwylliant Cymraeg yn hollbwysig wrth ystyried y Cymry i gyd, ac mae gen i ddiddordeb mawr yn lle celf a cherddoriaeth yn hyn oll. Un o’r pethau dwi’n gobeithio gwneud yw mynd ar daith gerdded o amgylch Cymru, yn siarad Cymraeg yn unig, a gwahodd unrhyw un i ddod i ymuno yn y daith wrth i mi fynd trwy eu hardal leol. Pan dych chi’n cyd-gerdded mae amser a hamdden i drafod y byd a’r betws. Mae Duw yn defnyddio pethau anghonfensiynol felly!’