Pennod Newydd i Gruffudd!

Roedd Dydd Sadwrn, Hydref 5ed 2024, yn ddiwrnod o lawenydd mawr i gynulleidfa Maescanner, Dafen (Llanelli) pan ordeiniwyd a sefydlwyd Gruffudd Jenkins yn weinidog newydd y capel.

Pleser o’r mwyaf oedd croesawu dros cant a hanner o bobl, yn ffrindiau ac yn aelodau o deulu Gruffudd ynghyd â nifer o weinidogion ac aelodau capeli ac eglwysi lleol i Faescanner ar gyfer y gwasanaeth.

Arweiniwyd y ddefod o ordeinio a’r sefydlu gan y Parch. Irfon Roberts. Clywsom yr hanes am alwad Gruffudd i Faescanner wrth i Andrew Thomas ddisgrifio sut ddaeth Duw â Gruffudd a’r capel at ei gilydd trwy weddi ac arweiniad.

Rhannodd Gruffudd ei dystiolaeth ei hun â’r gynulleidfa a chlywsom am Dduw yn gweithio yn ei fywyd, yn ei achub a’i arwain hyd nes iddo dderbyn yr alwad i Faescanner. Yn dilyn cyffes ffydd Gruffudd, addawodd aelodau Maescanner ac yna gweddill y gynulleidfa i gefnogi Gruffudd a gweddïo amdano. Yn dilyn gweddi gan y Parch Aled Maskell, gweddïodd y Parch Irfon Roberts yn ystod arddodiad dwylo gan y Parch Ifan George a Gwyon Jenkins.

Wedi i’r gynulleidfa ganu ‘Pwy ond Iesu all ein llonni?’ clywsom eiriau o gymeradwyaeth gan Alan Davies a oedd yn cynrychioli Capel Tabernacl, Llwynhendy. Siaradodd Alan yn gynnes am fagwraeth Gruffudd yn y capel a’i brofiad o gariad, gras a maddeuant Duw. Croesawyd Gruffudd i’r weinidogaeth gan y Parch Judith Morris ar ran Undeb Bedyddwyr Cymru.

Yna, siaradodd y Parch Rosa Hunt, un o brifathrawon Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd a chyflwynodd Feibl i Gruffudd ar ei rhan hi a’i chyd-brifathro, Ed Kaneen.

Estynodd y Parch Ian Lewis groeso ar ran eglwysi lleol a’r Parch John Treharne ar ran Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion. Testun pregeth y Parch John Treharne oedd ‘Myfi yw’r Drws, Myfi yw’r Bugail Da (Ioan pennod 10). Nododd mai’r gweinidog yw’r is-fugail a’i fod yn atebol i Dduw.

Wedi achlysur llawen iawn, diolchwn i Dduw am ei gariad, ei ras a’i arweiniad yn Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr.

Gweddïwn am ei fendith ac yn enwedig ar Gruffudd wrth iddo ddechrau ei rôl newydd fel gweinidog a bugail Capel Maescanner. I Dduw bo’r gogoniant.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau