​Oedfa Gomisiynu: Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â gwasanaeth comisiynu ar gyfer y Parch Simeon Baker fel Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Bydd y gwasanaeth yn gyfle i weddïo dros yr Undeb a dros Simeon wrth i ni nodi’r bennod newydd hon yn ein bywyd gyda’n gilydd.

​Oedfa Gomisiynu ar gyfer Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd Undeb Bedyddwyr Cymru.

​7 yh Dydd Llun 6ed o Orffennaf yn Bethesda Baptist Church, 108 Cefn Rd, Rogerstone, Casnewydd, NP10 9EX https://maps.app.goo.gl/PS6Etxa75QfURaTn8

Mae Simeon wedi bod yn aelod o Eglwys Bethesda ers 2012 ac rydym yn ddiolchgar i’r eglwys am gynnal y gwasanaeth comisiynu.

Bydd y gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg a darperir cyfieithiad.

Ar-lein: Os na allwch fynychu’n bersonol ond hoffech fod yn rhan o’r oedfa, bydd cyfle i ymuno â’r gwasanaeth ar-lein. Gweler manylion Zoom isod: https://us06web.zoom.us/j/83282272878?pwd=SxiCiaHK0GTTCtpthJ25MWK6QKKeJC.1

Meeting ID: 832 8227 2878

Passcode: 748310

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »