“Cymuned wledig dros ben yw hon,” eglurai Paul a Robyn dros goffi yn eu cartref yn Nhalgarth, “ac oherwydd hynny mae’r rhwydweithiau o gysylltiadau a’r profiadau bywyd sydd gan bobl y cylch yn dra gwahanol i bobl mewn ardal fwy trefol!”
Lleoliad gwledig
Symudodd Paul a Robyn Smethurst i Sir Frycheiniog ddwy flynedd yn ôl, yn dilyn galwad Duw i wasanaethu fel Gweinidogion Cenhadol gyda Chymanfa Bedyddwyr Brycheiniog. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, maent yn bugeilio’r gynulleidfa fach yng nghapel Penyrheol, dair milltir allan o Dalgarth. Fel llawer o adeiladau capel anghydffurfiol ledled Cymru, mae’r adeiladau ym Mhenyrheol mewn lleoliad gwledig iawn – yn yr achos hwn, mewn llecyn sy’n cynnig golygfeydd godidog dros fynyddoedd a dyffrynnoedd Bannau Brycheiniog. Ers tro byd roedd llawer o aelodau’r capel wedi teimlo y gellid gwneud rhywbeth mwy o’r lleoliad mynyddig i gysylltu â’r gymuned yn y cylch ond yn ansicr beth i’w wneud a sut y dylsent fynd o gylch y peth.
“Roeddem yn teimlo yn gyflym y byddai Penyrheol yn lleoliad perffaith i roi cynnig ar syniad clwb ‘Go Wild’ Scripture Union,” meddai Paul. Yn fodel sydd wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf, y syniad y tu ôl i Go Wild yw i fynd i archwilio’r Greadigaeth yng nghwmni plant – a thrwy hynny eu helpu i feddwl am y Creawdwr. Gyda gardd fawr a diddorol a ‘stabl’ capel (h.y. festri bach) wedi ei hadnewyddu yn ystod y ddegawd ddiwetha ym Mhenyrheol, a nifer o deuluoedd â chanddynt gysylltiadau hanesyddol â’r capel, roedd y cynhwysion yn amlwg yno i roi cynnig ar y syniad.
Clwb ‘I’r Gwyllt!’
Lansiwyd y clwb ym Mhenyrheol ym mis Mai 2023, gyda phedwar teulu yn dod draw a phawb yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu gwesty trychfilod gyda’i gilydd. Fel yr eglura’r Smethursts, mae’r fformat yn syml; cymryd thema sy’n gysylltiedig â’r Cread bob mis (dŵr, coed ac ati), a’u harchwilio mewn ffordd hwyliog, blêr, ymarferol – ac yna adeiladu ar y weithgaredd honno gydag archwiliad ysbrydol.
“Mae’n lot fawr o sbri – ac mae gwneud y gwaith ymarferol yna gyda’n gilydd, boed hynny’n creu ‘bomiau hadau’ blodau gwyllt, gwneud inc llus neu waith pren – yn tynnu pawb i mewn ac yn caniatáu i ni adeiladu’r gymdeithas yn ein plith. Yna gall sgyrsiau gymryd lle yn naturiol, o fan sgwrsio dydd i ddydd i rai llawer mwy arwyddocaol ac ysbrydol” eglura Paul.



Cysylltiad
Dros amser, mae’r grŵp wedi tyfu’n organig i gynnwys naw teulu, ac mae’r Smethursts yn glir mai’r obaith o’r cychwyn yw y byddai hyn yn fodd o gysylltu â theuluoedd cyfan – nid dim ond y plant, na’r rhieni neu’r to hŷn ar wahan. “Wrth i berthnasau ddyfnhau rhyngom, mae’r elfen ysbrydol hefyd wedi dyfnhau. Rydyn ni wedi gallu mynd o gyflwyno’r cysyniad o weddi, er enghraifft, i adrodd stori o’r Beibl sy’n gysylltiedig ag un o’n themâu. Ac mae croesiad naturiol wedi bod yn datblygu rhwng y clwb a gwasanaethau’r capel adeg y Nadolig neu’r Pasg, er enghraifft.”
Un o ffrwythau annisgwyl hyn fu derbyn gwahoddiad i redeg clwb ‘I’r Gwyllt’ cyfochrog yn yr ysgol gynradd leol. Mae Robyn yn esbonio eu bod bellach yn rhedeg clwb ar ôl ysgol yno’n wythnosol, ac er bod yn rhaid i’r cynnwys fod yn symlach, mae wedi bod yn fodd pwysig iddynt gael adeiladu perthynas â chymuned yr ysgol.
Mae’r gwaith o ddirnad ble mae’r Ysbryd yn symud yn lleol yn parhau – ond mae’r Smethursts yn gweld calondid go iawn yn y ffaith fod cymuned o deuluoedd ifanc bellach yn cyfarfod yn rheolaidd yng nghapel hardd Penyrheol yng nghanol gogoniant y greadigaeth yng nghanolbarth Cymru – a’u bod yn dechrau darganfod pwy yw Creawdwr y gogoniant hwnnw.