Interniaeth – blwyddyn o dwf

Buodd Mia yn gwneud interniaeth yng nghapeli Gomer a Seion, Abertawe, dros y flwyddyn ddiwetha. Dyma ni’n gofyn iddi am ei blwyddyn…. 

Ers mis Medi fel rhan o fy interniaeth rydw i wedi bod yn neud nifer o bethau gwahanol megis sesiynau yng ngwasanaethau capeli Gomer a Seion, astudiaethau wythnosol bob nos Lun a Iau, sesiynau mentora gydag Elen Rennolf a Hannah Smethurst a sesiynau wythnosol gyda Derek (y gweinidog). Dwi wedi bod wrth fy modd yn cael cymaint o amser i astudio a chanolbwyntio ar fy mherthynas gyda Duw dros y 10 mis dweddaf. 

Dros y flwyddyn dwi wedi astudio nifer o lyfrau a phynciau: 

  1. Cross-examined: Mae Cross-examined yn llyfr sy’n edrych ar agweddau gwahanol o’r Groes.  
  1. Taking God at his word: Dyma lyfr sy’n siarad am natur gair Duw a sut mae hwnna yn effeithio sut ni’n gweld e. 
  1. How to pray: Mae How to Pray yn llyfr sydd yn mynd trwy beth yw e i weddio a sut mae gwneud yn feiblaidd. 

Gydag Elen, wnaethom ni astudio’r Beibl. Wnaethom ni ddarllen a thrafod Philipiaid, Galatiaid, Iago, Ruth a 2 Corinthiaid. Yna gyda Hannah nes i astudio Stay Salt : llyfr sy’n trafod agweddau gwahanol o’r efengyl megis agweddau pobl tuag at yr efengyl, heriau gallwn wynebu a sut i rannu’r efengyl mewn diwylliant “post christian”. Wnaeth hi ysbrydoli llawer o sgwrsiau am ein profiadau personol a sut bydden ni’n addasu tro nesaf da ni’n efengylu. Yn y sesiynau gyda Derek edrychon ni ar wahanol fathau o Ddiwinyddiaeth megis – Diwinyddiaeth Feiblaidd, Cristoleg a Diwinyddiaeth Drinitariadd. Dwi hefyd wedi bod yn gwneud tasgau ysgrifenedig ar gyfer y sesiynau. 

Wrth wneud yr interniaeth mae fy nealltwriaeth o Dduw a’r Beibl wedi datblygu gymaint. Mae fy mherthynas a dibyniaeth ar Dduw wedi tyfu a rydw i wedi tyfu yn fy ngallu ymarferol mewn meysydd fel trafod y Beibl, esbonio’r Beibl a rhannu’r Beibl. Oherwydd yr interniaeth dwi mewn lle gwell i fyw bywyd fel Cristion ond hefyd i wneud y gwaith mae Duw yn galw fi iddo megis pregethu, rhannu gair Duw a gwasanaethu’r eglwys. 

Ydych chi, neu rywun rydych chi’n nabod yn pendroni am y dyfodol, ac am y bosibilrwydd o wasanaethu yn yr eglwys? Mae ein rhaglen interniaeth yn parhau – manylion yma.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »