Gwrthwynebu polisi Rwanda

Datganiad gan Undeb Bedyddwyr Cymru ar gynlluniau Llywodraeth Prydain i anfon ceiswyr lloches i Rwanda:

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anfon ceiswyr lloches i Rwanda.  Ceisio bywyd diogel yw dyhead y bobl yma a chael hyd i hafan i ailsefydlu eu bywydau ar ôl dianc rhag rhyfel, erledigaeth ac erchyllterau sydd y tu hwnt i’n dychymyg.  Eisoes, agorodd llu o wledydd Ewrop eu drysau i filoedd o ffoaduriaid, a gresynwn at y modd anghyfrifol ac anfoesol mae’r weinyddiaeth gyfredol yn San Steffan wedi cynllunio i’w cludo i Rwanda.

Mae angen cynlluniau teg a dyngarol sy’n gyfreithiol a diogel rhwng Prydain a gwledydd Ewrop er mwyn trechu’r cludwyr anghyfreithlon sy’n manteisio ar y ffoaduriaid diymadferth hyn. Mae ymateb poblogaeth gwledydd Prydain i ffoaduriaid Wcráin yn arwydd o dosturi a haelioni eithriadol. Braint ein cymunedau yw estyn agwedd groesawgar a chynhwysol tuag atynt ac nid eu trin fel anifeiliaid.  Galwn ar Lywodraeth San Steffan i ailystyried eu cynlluniau yn ddiymdroi ac i groesawu’r sawl sydd yn ceisio lloches ddiogel yng nglwedydd Prydain. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »