Gweinidogaeth Genhadol yn Sir Frycheiniog

Mae llawer ohonom ledled Cymru yn teimlo ymdeimlad o golled yn sgil y newidiadau rydyn ni wedi’u gweld yn ein cymdeithas ac o fewn ein capeli dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfnod o ddirywiad wedi ein herio i fynd y tu hwnt i’r eglwys mewn cenhadaeth ond mewn gwirionedd, rydym weithiau’n ei chael hi’n anodd i weld ffordd ymlaen. Mae Cymanfa Sir Frycheiniog – un o’r lleiaf yn ein Hundeb – wedi bod yn arloesi yn y cyswllt hwn, a hynny ar ôl penodi’r Parch Ifor Williams yn Genhadwr lleol sawl blwyddyn yn ôl. Nawr mae’r etifeddiaeth hon yn cael ei hadeiladu arni gyda phenodiad Paul Smethurst i swydd Gweinidog Cenhadol ym Mrycheiniog ac i fod yn arweinydd Gweinidogaeth Genhadol ar draws Undeb Bedyddwyr Cymru. 

Y syniad y tu ôl i ‘weinidogaeth genhadol’ – sy weithiau’n cael ei alw yn ‘arloesi’ o fewn enwadau eraill – yw cydnabod bod angen gwaith cenhadol y tu allan i strwythurau eglwysig sefydledig, ac sy’n ceisio cyflwyno pobl i Iesu o fewn ein cymdeithas ôl-Gristnogol. Mae hyn wrth gwrs yn rhan o alwad pob Cristion, ond o fewn ein gwreiddiau enwadol a thramor rydym wedi cydnabod yr angen hefyd i osod ar wahân rai pobl i blannu eglwysi a dod â’r efengyl i gymunedau lle nad yw braidd yn hysbys o gwbl. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu nad yw’r ffocws i Paul ac eraill tebyg iddo ar draws yr Undeb yn gymaint ar weinidogaeth eglwys ag ydyw ar estyn allan i’r rhai sydd heb fawr o gysylltiad â’r eglwys mewn ffyrdd newydd, cenhadol. 

Mae Paul a Robyn yn symud o eglwys Hope Gobaith yn Llanelli i Dalgarth yn Sir Frycheiniog, lle mae Paul wedi dechrau yn y swydd newydd a bydd Robyn yn gweithio ochr yn ochr ag ef. ‘Mae llawer o bethau sydd yn aneglur o hy,’ meddai Paul, ‘ond mae’n gyffrous cydnabod beth mae Duw yn ei wneud yn y sir, er gwaethaf mor wan yw sefyllfa’r eglwysi yma. Rydyn ni’n agored i arweiniad Duw!’ Nododd y Parch Anne Roberts, Ysgrifennydd y Gymdeithas mor galonogol ydy hi ‘fod Duw wedi galw rhywun newydd i ni – mae Sir Frycheiniog yn dal i fod ar agenda Duw!’  

Yn ogystal â’r weinidogaeth leol hon yn Sir Frycheiniog, bydd Paul yn gweithio ar lefel yr Undeb gyfan i weld sut gallwn gefnogi mentrau cenhadol ar draws y wlad. Mae’r potensial o weld cenhedlaeth newydd yn cenhadu ac yn rhannu’r ffydd Gristnogol yn gyffrous ac rydym ni fel Undeb eisiau bod yn rhan o’r hyn mae Duw yn ei wneud ar draws Cymru yn ein cymoedd, ein trefi a’n pentrefi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ein gobaith yw y gwelwn weinidogaeth newydd ac arloesol o fewn ein teulu Bedyddiedig a fydd yn dod â bywyd a gobaith i’r cymunedau y maent yn gwasanaethu ynddynt. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »