Gweddi ’26: Cadwyn Weddi

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni wrth i ni orffen ein tymor o weddi gyda chadwyn weddi 12 awr arbennig ym mis Mawrth…

Ym mis Rhagfyr, fe estynnwyd gwahoddiad i eglwysi, gweinidogion ac unigolion ar draws Cymru ymuno â ni mewn tymor o weddi wrth i ni symud i gyfnod allweddol o ran ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth fel teulu Bedyddiedig yng Nghymru.

Teimlwyd yn gynyddol bod galwad i ni fel teulu Undeb Bedyddwyr Cymru geisio’r Arglwydd mewn ffordd arbennig. Yn gyntaf – Ei geisio amdano Fe Ei hun… mae E’n deilwng o’n holl ffocws a’n hegni!

Teimlwyd hefyd fod nifer o ddatblygiadau pwysig yr hoffwn gyflwyno gerbron yr Arglwydd yn ystod y cyfnod allweddol hwn:

  • Apwyntiad Ysgrifennydd Cyffredinol Newydd
  • Datblygiad CIO’s Cenhadol Rhanbarthol Newydd
  • Hinsawdd Ysbrydol Cymru – gweddïo dros waith yr Ysbryd Glân mewn calonnau a gwaith y Deyrnas ar draws Cymru.

Hoffwn estyn wahoddiad eto: i ymuno â ni mewn Cadwyn Weddi arbennig ar draws y wlad ar y 26ain o fis Mawrth.

Sut bydd hi’n gweithio?

  • Rydym yn gwahodd eglwysi, grwpiau ac unigolion i gofrestru ar gyfer slot gweddi.
  • Bydd y ‘gadwyn weddi’ yn rhedeg am 12 awr – rhwng 7yb a 7yh ar y 26ain o fis Mawrth.
  • Gallwch gofrestru i weddïo am gyfnod byrrach neu hirach trwy’r ddolen hon: https://signup.24-7prayer.com/signup/a19450 (Noder: dim ond am isafswm o awr o slot ar y system Gweddi 24/7 y gallwch chi gofrestru, ond gallai hynny olygu gweddïo am 15 munud rywbryd yn yr awr honno, peidiwch â phoeni os na fedrwch lenwi’r awr! Nodwch hefyd fod modd i fwy nag un person / grŵp gofrestru yn yr un slot amser)
  • Bydd dwy alwad weddi genedlaethol  – hanner ffordd trwy’r dydd am 12yh, ac un i orffen y gadwyn weddi am 7yh (plîs cysylltwch â sioned@ubc.cymru os hoffech ddolen Zoom).

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau