‘Mae hi wedi bod yn daith ffydd go iawn i ni fel eglwys,’ eglura Peter wrth i ni gerdded trwy adeilad newydd yr eglwys sydd yn codi yng nghanol tref Penfro, ‘ond rydym yn gweddïo y bydd yn cael ei gwblhau, rhywsut, o fewn y flwyddyn nesaf.’ Grŵp o ryw wyth deg o Gristnogion o bob oed sy’n byw yn ac o amgylch Penfro yw Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant, ac maen nhw bellach wedi bod yn cwrdd mewn ysgol leol am bron i ddegawd. Ond nawr mae benthyciad wrth Gronfa Adeiladu Bedyddiedig Cymru wedi galluogi eu prosiect adeiladu i gymryd cam mawr ymlaen, a dyma ni’n ymweld i gael cip ar y to newydd yn ei le.
‘Fe werthon ni ein hen adeilad capel yn y dref yn y pen draw oherwydd nad oedd modd i ni gael y caniatâd angenrheidiol i’w addasu a’i wneud yn fwy addas ar gyfer anghenion cyfoes. Doedden ni ddim yn siŵr am y peth ac roedden ni’n gweddïo llawer yn ei gylch, ond dangosodd Duw i ni mor glir beth oedd y ffordd ymlaen i fod pan werthon ni’r mans am £175k a daeth y safle yma i fyny ar werth am yr union swm hwnnw – ac yna dywedodd y perchennog wrthym ei fod am iddo gael ei werthu i i fel eglwys!’ Ers hynny, mae’r prosiect adeiladu wedi symud ymlaen gam wrth gam, ac eithrio dau fenthyciad gan y Gronfa Adeiladu Fedyddiedig, mae’r arian wedi dod oddi mewn i’r eglwys ei hun. Dros y bum mlynedd diwethaf, ni fu gweinidog gan yr eglwys ond mae wedi tyfu a chadw’n driw i’i gweledigaeth wrth i’r aelodau roi yn hael i weld y prosiect adeiladu hwn yn dod i ffrwyth.
“Efallai gall rhan o’r adeilad hwn yn dod yn ganolfan chwarae i blant i’r gymuned ei defnyddio ganol wythnos, neu yn gaffi neu ryw fath arall o fenter gymdeithasol yn y dref, dydyn ni ddim yn gwbl siŵr eto. Ond rydyn ni eisiau i’r adeilad gael ei ddefnyddio’n dda ac i bobl y tu allan i’r eglwys elwa o hyn hefyd, felly rydyn ni’n dal i weddïo am hynny ar hyn o bryd – pa ddrysau fydd Duw’n agor, a beth yw’r anghenion. Mae gennym ddau i dri chan mil i fynd er mwyn talu am y gwaith mewnol a’r ffitiadau, felly cawn weld!’
Wrth i ni gerdded drwy’r adeilad ac i’r capel, mae’r to ar ffurf ton yn y môr eisoes yn creu ymdeimlad o ysgafnder a fydd yn gwneud hyn yn ofod croesawgar i’r eglwys gyfarfod ynddo. ‘Dyma’r union fath o beth mae Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn bodoli i’w gefnogi’, meddai Hugh Tribe, un o’i Gyfarwyddwyr. ‘Rydym yn gorff hyd braich o’r Undeb a’i bwrpas yw cefnogi tystiolaeth y Bedyddwyr ledled Cymru, ac yn enwedig ar ochr cyfalaf ac adeiladau.’
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r benthyciadau cyfalaf y maent wedi’u rhoi i eglwysi wedi cynnwys popeth o fans i waith cynnal a chadw sydd wir angen megis ailosod ffenestri, sicrhau mynediad i bobl anabl, gosod cyfleusterau toiledau modern a mwy. ‘Rydym yn falch iawn o helpu i gefnogi tystiolaeth yr eglwys yn y dref farchnad allweddol hon,’ meddai Hugh, ‘ac os yw eglwysi eraill am wneud cais am fenthyciad gennym, mae croeso mawr iddynt wneud hynny drwy gysylltu â swyddfa UBC.’
Yn ôl ym Mhenfro, mae’n galonogol meddwl bod Mount Pleasant wedi bodoli fel eglwys ers 1830, ac wedi gallu tystio i ffyddlondeb Duw ar hyd y blynyddoedd. Mae demograffeg yr eglwys wedi bod yn newid yn araf i fod yn gynulleidfa iau o ran oedran a dros y blynyddoedd diwethaf maent wedi gweld oedolion ifanc yn cael eu bedyddio, teuluoedd newydd yn mynychu’r eglwys a gwaith Ysgol Sul sy’n tyfu. “Rydym i gyd yn ddisgwylgar ac yn gyffrous wrth i ni aros ar Yr Arglwydd am y bennod nesaf,” meddai Peter.
Os hoffech chi fel eglwys siarad â’r Gronfa Adeiladu am fenthyciadau, mae croeso i chi wneud hynny drwy gysylltu â swyddfa UBC am sgwrs ar unrhyw adeg.