Edrych i’r Flwyddyn Newydd mewn ffydd…

Roedd hi’n hen arferiad yn ein hardal ni yng ngogledd Sir Benfro i gyfarch ffrindiau’r fro ar gân ar fore dydd Calan. Byddem yn codi’n fore er mwyn cerdded rhyw bedair milltir o gwmpas cartrefi’r ardal i ganu a derbyn arian a losin.  

Y gân fwyaf poblogaidd oedd:-  

“Blwyddyn newydd dda i chi ac i bawb sydd yn y tŷ” 

Dyma yw’n dymuniad ni, “Blwyddyn newydd dda i chi!” Blwyddyn Newydd dda!    

Cofiaf deimlo braidd yn ddug wrth un o blant y pentref am fynd o gwmpas ar gefn beic yn hytrach na cherdded, ac o ganlyniad wedi cyrraedd tipyn mwy o dai, oherwydd doedd dim lwc yn dod o ganu wedi hanner dydd! Wedi cyrraedd yr arddegau hwyr buom yn mynd o gwmpas nos Galan i gyfarch y rhai oedd wedi priodi yn ystod y flwyddyn a dymuno’n dda i hwythau ar ddechrau bywyd priodasol. Diflannodd yr hen draddodiadau bron yn gyfan gwbl o’r ardaloedd bellach, er bod yr Hen Galan yn cael ei ddathlu yn ardal Cwm Gwaun o hyd! 

Ond, beth am ganeuon dydd Calan heddiw? Beth yw fy nymuniad i chi ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Dwi wedi dewis tair cân ar eich cyfer:- 

1. Cân am sicrwydd ffydd.  (Eseia 43:1-4) 

Yn awr, dyma’r hyn a ddywed yr ARGLWYDD 

a’th greodd, Jacob, ac a’th luniodd, Israel: 

“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; 

galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. 

Pan fyddi’n mynd trwy’r dyfroedd, byddaf gyda thi; 

a thrwy’r afonydd, ni ruthrant drosot. 

Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir, 

a thrwy’r fflamau, ni losgant di. 

Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, 

Sanct Israel, yw dy Waredydd; 

rhof yr Aifft yn iawn trosot, 

Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat. 

Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, 

yn ogoneddus, a minnau’n dy garu, 

rhof eraill yn gyfnewid amdanat, 

a phobloedd am dy einioes. 

Does neb meidrol yn gwybod beth a ddaw ar ein traws yn 2025, ond mae’r Arglwydd yn gwybod yn barod. Bydd galw arnom i fentro mewn ffydd yn y flwyddyn newydd, i gamu’n hyderus gydol y flwyddyn ac i dorri cwys newydd efallai. Pan fyddwn yn mynd trwy’r dyfroedd neu’n rhodio trwy’r tân gallwn fod yn sicr fod yr Arglwydd gyda ni. Mae e’n addo ein cadw am ein bod yn werthfawr yn ei olwg ac yntau’n ein caru ac wedi rhoi ei Fab yn bridwerth drosom. Dyma gân hyderus ffydd a’r gytgan yn orfoleddus, “Eiddof fi ydwyt.”  

2. Cân am esiampl o wasanaeth.   (Philipiaid 2:6-11) 

“Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio,  

ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.  

O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun,  

gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.  

Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw,  

fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,  

ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. 

Os oes un gair yn haeddu sylw eleni, y gair yw “gwasanaeth” a dyma’r wisg orau wrth wasanaethu – “gostyngeiddrwydd”. Bydd 2025 yn galw am wasanaeth “Overalls”, “Wellingtons”, ffedog, tywel a phadell wrth wasanaethu ein gilydd, ac eraill y tu allan i deulu’r Ffydd, yn enw Iesu. Dyma’r esiampl fwyaf erioed o ostyngeiddrwydd, Iesu’n rhoi heibio gogoniant y nefoedd dros dro i blygu o flaen ei ffrindiau a golchi eu traed. Boed nod gwasanaeth ar bob gweithred o’n heiddo ar hyd y flwyddyn. Boed i bersawr Crist lenwi bob tŷ wrth inni fynd i mewn iddynt. Boed i lais Iesu gael ei glywed yn ein geiriau caredig ni. 

3. Cân o fawl.  

“Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn 

gallu, cyfoeth, doethineb a nerth,  

anrhydedd, gogoniant a mawl.” 

Yn ôl hen draddodiad dydd Calan, roedd rhaid i’r canu ddod i ben erbyn hanner dydd, ond nid felly gyda chaneuon o fawl i’r Oen. “Ni cheir diwedd byth ar sŵn y delyn aur!” Dwi wrth fy modd yn canu emynau, hen a newydd! Dwi wrth fy modd yn cysylltu themâu a llinellau mewn emynau gydag adnodau o’r Beibl a cheisio dyfalu meysydd myfyrdod yr emynwyr wrth ganu eu hemynau o fawl. Boed i’n fyfyrdodau ni yn y Beibl droi’n ganeuon o fawl i’r Arglwydd Iesu ar hyd y flwyddyn. Dyma yw fy nymuniad i ar eich cyfer yn y flwyddyn newydd – sicrwydd ffydd, nod gwasanaeth a llawenydd mawl. 

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

Geraint Morse, Llywydd UBC 2024-25

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn – trwy’r storm!

Mae sawl peth arbennig am Esgyn.  Pobl ifanc yn eu harddegau yn dod at eu gilydd i fwynhau ac addoli Iesu.   Arweinwyr ifanc brwdfrydig yn dangos i’r criw beth mae dilyn Iesu yn cynnig. Ac un peth arall sydd yn bwysig…

Darllen mwy »