Dychwelyd i Gymru!

O Sir Benfro, i’r UDA ac yn ôl eto! Mae hanes Jeff a Colleen Richards am sut y galwyd nhw i Gymru yn un sy’n ymestyn dros bedair cenhedlaeth ac yn dangos i ni ddyfnder calon Duw… 

Gellir olrhain dechreuadau stori Jeff a Colleen tua 150 mlynedd yn ôl i gefn gwlad Sir Benfro. Ffermwr o Sir Benfro oedd hen dad-cu Jeff, ac fel llawer o bobl eraill o’r cyfnod hwnnw, enillai ei fywoliaeth ar y fferm deuluol. 

Yn 1886, gadawodd gyda’i bedwar plentyn a’i wraig feichiog am fywyd newydd yn yr UDA. Fodd bynnag, ni adawodd y teulu eu gwreiddiau Cymreig, gan ymuno â chymunedau o Gymry Cymraeg yn Nebraska ar y pryd. Ond, roedd yr hyn a newidiodd yn eu bywydau yn holl-bwysig wrth osod y sylfaen ar gyfer gwaith Duw ar gyfer cenedlaethau i ddod. Er mai yn  yn eglwys Hebron, Saundersfoot y buasai hen dad-cu Jeff yn ddiacon, dyma’i fywgraffiad yn disgrifio sut y gwnaeth Duw “redeg ar ei ôl” yn yr Unol Daleithiau. Cafodd brofiad radical o gael ei “eni o’r newydd” a darganfod ffydd newydd yn Iesu. 

Fe wnaeth hyn ei yrru wedyn i weinidogaethu, tra’n dal i ffermio, ac ymhen amser daeth yn ‘efengylydd y dalaith’ ar gyfer Nebraska a De Dakota. Gallai o leiaf dwy fil o bobl fod wedi rhoi eu bywydau i Iesu trwyddo. Nid yw straeon teuluol anhygoel bob amser yn golygu y bydd eraill o gwmpas yn dilyn yr un llwybr, fodd bynnag, ac mae Jeff yn rhannu sut y gwnaeth cenedlaethau diweddarach ymadael â ffydd. Ymunodd tad Jeff â Llynges yr UDA ac ymbellhau o’r teulu. 

“Roeddwn i mor bell i ffwrdd ag y gallwch chi ei gael hefyd!” dyma Jeff yn dweud. “Doedd gen i ddim diddordeb, a doeddwn i ddim eisiau unrhyw beth i’w wneud â ffydd.”  

Priododd Jeff â Colleen yn 1982, ac ymunodd hi ag ef yn Montana. Roedd gan Jeff waith da yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol, a dechreuon nhw dyfu eu teulu. Fodd bynnag, mae Colleen yn disgrifio “nad rhosod oedd y cyfan”. Roedd hi’n anodd iddi hi fel rhywun oedd wedi dod i ffydd yn ei harddegau, tra nad oedd gan ei gŵr ddiddordeb o gwbl. Fodd bynnag, daeth ffrind coleg i Colleen a oedd hefyd yn efengylydd i aros gyda nhw, a dechreuodd ei ymwneud â Jeff feddalu ei galon. 

Daeth y newid go iawn pan rannodd y ffrind hwn rywbeth yr oedd Jeff yn gwybod mai ond Duw (ac ef ei hun!) a allai fyth wybod am ei fywyd. “Roedd hi fel petai’r dyn wedi cael gair o wybodaeth nad oedd modd iddo wybod ar ei ben ei hun – roedd fel hi fel petai Duw yn rhoi gwybod imi yn dyner ei fod yn fy ngweld ac yn fy adnabod.” 

Un noson, roedd Jeff mewn cyfarfod dan arweiniad yr efengylydd ac fe weddïodd: “Duw, os wyt ti’n real, bydda i’n credu ynot ti.” Y foment honno, cafodd gyfarfyddiad pwerus â phresenoldeb Duw. Disgrifiodd y profiad fel petai ‘rhywun wedi ei daro yng nghefn y pen gyda 2×4’, ac mewn dagrau, clywodd lais Duw yn ei alw i fywyd newydd. Fe wnaeth hyn nodi dechrau tymor newydd yn ei fywyd, ac fel ei hen daid, galwyd Jeff ymhen amser i’r weinidogaeth.  

Teimlodd Jeff a Colleen alwad Duw i weinidogaethu mewn eglwys yn Montana lle gwelson nhw Dduw yn symud yn rymus ac yn iacháu bywydau. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn cawsant eu hatgoffa hefyd am sut roedd y ddau wedi teimlo galwad i genhadaeth. Un flwyddyn yn ddiweddar pan deimlodd y ddau bod Duw yn eu galw i ddod â’u hamser fel bugeiliaid yn yr eglwys leol i ben, aethant i gynhadledd genedlaethol eu henwad, lle daeth tri pherson i fyny atynt – yn annibynnol i’w gilydd – a gofyn ‘ydych chi wedi clywed am yr hyn y mae’r Arglwydd yn ei wneud yng Nghymru?’. 

Fe wnaeth hyn sbarduno rhywbeth ynddynt, a’u harwain i ail-ddarganfod stori hen daid Jeff a ddaeth o Gymru. Fe wnaethon nhw geisio, a gweddïo, ac yn gynyddol teimlo bod Duw yn eu galw nhw i Gymru. Ymhen amser, fe wnaethant gysylltiad â theulu UBC, a oedd hefyd yn cydnabod galwad Duw ar eu bywydau i ddod i weinidogaethu yma. Cyrhaeddodd Jeff a Colleen Sir Benfro eleni, 138 o flynyddoedd ar ôl i’w hen dad-cu adael, gan wybod bod Duw wedi eu galw yn ôl i’r wlad hon i’w geisio ar gyfer iachâd ac adnewyddiad i’w bobl yng Nghymru.  

“Rydym ni yn bersonol yn teimlo fel pobl mor annhebygol,” meddai Colleen. “Ac rydyn ni’n gwybod mai dyna sut mae’r Cymry wedi teimlo drwy hanes. Ond rydyn ni wir yn teimlo bod Duw yn gweld ac yn adnabod y Cymry mor dda, ac mae ganddo gynllun hardd ar gyfer sut mae e am weithio trwy Ei bobl yn y wlad hon.” 

Ar hyn o bryd, mae Jeff a Colleen yn gwasanaethu yn Eglwys Bedyddwyr Bethel yn Noc Penfro, ac yn gyffrous am y dyfodol wrth iddynt geisio camau nesaf Duw ar eu cyfer. Maent yn barod i ddilyn Ei alwad sut bynnag y mae’n eu harwain! 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn – trwy’r storm!

Mae sawl peth arbennig am Esgyn.  Pobl ifanc yn eu harddegau yn dod at eu gilydd i fwynhau ac addoli Iesu.   Arweinwyr ifanc brwdfrydig yn dangos i’r criw beth mae dilyn Iesu yn cynnig. Ac un peth arall sydd yn bwysig…

Darllen mwy »