Dod i nabod… Rob Saunders

Cawson ni’r pleser yng nghylchgrawn Negesydd y Gwanwyn o glywed rhai o’r straeon arweiniodd Rob Saunders a’i deulu i’r Trallwng, ble maen nhw’n gweld llaw Duw ar waith yn eu bywydau a’u gweinidogaeth. Mae hefyd yn rhannu rhai o’r ffyrdd y mae e’n rhagweld Duw yn gweithio yng Nghymru wrth i ni edrych i’r dyfodol…

Diolch am gael sgwrs gyda ni, Rob! O ble ydych chi’n dod yn wreiddiol, a sut wnaethoch chi eich darganfod eich hunain yn y Trallwng?

Ces i fy ngeni yn Nottingham, fy magu yn Crewe, ac yna fe wnes i setlo yn Malvern, ble roedd fy nhad yn weinidog. Am sbel, dyna’r peth olaf roeddwn i am fod!

Ar ôl gradd yn Archeoleg, a gyrfa fer yn TG, dywedais i ‘ie’ i alwad Duw, a symudais i a fy ngwraig i Gymru i ddechrau hyfforddi. Derbyniais i fy ngradd yng Nghymru, a ches i fy ordeinio yn Lloegr – dwi’n cofio rhywun yng Ngholeg y Bedyddwyr yn rhoi gair proffwydol i fi am faner Lloegr a Chymru – yn y pen draw, roedd y gair hwnnw’n addas iawn…

Fe wnaethom ni ein darganfod ein hunain yn y Trallwng, ar ôl gweinidogaethau yn fy eglwys lawn-amser gyntaf yng Fforest y Ddena. Tra’n bod ni yn y Fforest, synhwyron ni alwad yn ôl i Gymru, ac yn benodol i Ganolbarth Cymru. Roedd Eglwys y Bedyddwyr y Trallwng yn gwybod amdanaf fi o’r cyfnod hyfforddiant. Roeddwn i’n gwybod amdanyn nhw, ac fe ddaeth Duw â ni i gyd at ein gilydd. Dyna’r alwad cliriaf i bobl benodol, ac i le penodol i ni erioed ei theimlo.

Gwych! Sut ydych chi wedi gweld Duw ar waith yn eich hanes?

Roedd Duw ar waith yn yr alwad yma i Baradwys… sori, y Trallwng dwi’n ei feddwl! O’r cyfarfodydd cyntaf, i ddarpariaeth llety trwy UBC, i arian grant, roeddem ni’n gallu gweld Ei law yn ein harwain ni i gyd, er nad oedd yn llwybr cyflym na hawdd. Mae unrhyw aberth ar ein rhan ni o hyd wedi’i ragori gan ddarpariaeth Duw ar ein cyfer ni – roedd yna lwybrau haws i’n teulu ddilyn, ond fyddai r‘un ohonyn nhw wedi ein cymryd ni i le ac eglwys yr ydym ni’n teimlo mor gartrefol ynddyn nhw.

Byswn i’n annog i unrhyw un sydd yn ystyried newid mawr yn eu bywydau, i ymddiried yng nghynllun hir-dymor Duw – peidiwch byth ag anelu am lwyddiant byr dymor dros ben ‘hiralwad’ Duw – yn fy mhrofiad mae e’n chwarae’r ‘long game’, ac felly hefyd y dylwn ni.

Beth ydych chi’n credu sydd gan Dduw ar ei galon ar gyfer y Trallwng, ac ar gyfer Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod?

Ar gyfer ein heglwys ni, rydw i’n credu Ei fod E’n ein galw ni i fod yn gymuned wydn, gynaliadwy, fywiog o ddisgyblion sydd yn tyfu ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymuned er ffyniant Teyrnas Dduw. Mae Eseia 12:3 yn dweud wrthym…

“Byddwch yn codi dŵr yn llawen

o ffynhonnau achubiaeth.”

Mae hwn yn air ar gyfer ein heglwys lawn llawenydd!

Ar gyfer Cymru – rydw i’n synhwyro bod newid yn y llanw, arwyddion o obaith yn dechrau blodeuo ar ôl blynyddoedd o waith ffyddlon, hyd yn oed yng nghanol naratif ehangach o ddirywiad. Rydw i wir yn credu y bydd Teyrnas Dduw yng Nghymru yn tyfu yn ddwyieithog, ac y bydd eglwysi Cymraeg a Saesneg eu hiaith (ac eraill!) yn cael eu denu at ei gilydd mewn i rywbeth arbennig.

Rydw i’n araf yn dysgu Cymraeg yn nisgwyliad yr amser pan fydd ‘pob cenedl, llwyth, pobl ac iaith’ yn cael eu croesawu i’r dyfodol hwn.

I ddarllen yr erthygl wreiddiol, ac i ddarllen nifer o hanesion eraill am Dduw ar waith yn y Gymru fodern ac ar draws y byd heddiw, ewch draw i’r Negesydd.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau