Yn y rhifyn hwn o ‘Dod i nabod…’, cawsom sgwrs gydag Elsa Harflett a’r Parch. Misha Pedersen, sydd yn gweinidogaethu ar y cyd yn Eglwys Bedyddwyr Pentref. Maen nhw hefyd yn gyd-Llywyddion ar Senana, sefydliad o Fedyddwragedd yng Nghymru sy’n cwrdd i ddysgu am BMS World Mission, i weddïo dros eu cenhadaeth, ac i’w cefnogi’n ariannol.
Diolch am gael sgwrs gyda ni! I gychwyn, sut ddaeth y ddwy ohonoch chi i Gymru yn y lle cyntaf?
Elsa: Ces i fy ngeni yn wreiddiol yn Malaysia ble roedd fy nhad yn athro! Daeth e nôl pan wnaethpwyd y wlad yn annibynnol yn 1957, ac o’r pwynt hwnnw symudon ni i Somerset.
Symudais i i’r Bontnewydd-ar-Wy yn 2013. Roeddwn i’n adnabod Cymru rywfaint cyn hynny, achos roedd gan deulu fy ngŵr gysylltiadau gyda Chymru. Ond doeddwn i erioed eisiau byw yng Nghymru tan i amgylchiadau teuluol arwain i’r cyfeiriad hwnnw! Wrth edrych nôl, dwi’n gallu gweld yr oedd llaw Duw ar waith, ac mae wedi teimlo fel gartref ers hynny!
Misha: Dwi’n dod o Ddenmarc yn wreiddiol! Ond, dwi wedi bod yma am dipyn dros dros 8 mlynedd. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio gyda Geopark yn Denmarc. Roedd un yn y wlad hon ar y pryd, y gwnes i ymweld ag e yn y Bannau Brycheiniog fel rhan o fy astudiaethau, ac yn y pen draw trwy wahanol amgylchiadau, fe wnes i benderfynu aros yng Nghymru.
Sut fyddech chi’n disgrifio eich taith ffydd?
Elsa: Mae’n anodd pwyntio at amser penodol i fi. Ces i fy magu mewn teulu Cristnogol, ac felly fe ddigwyddodd yn raddol. Ond, efallai dwi’n gallu edrych
nôl at amser ble roedd hi’n fwy o fater o ‘fynd trwy’r mosiwns,’ ond nes ymlaen fe wnes i sylweddoli bod fy ffydd wedi dod yn eiddo i fi fy hun. Roedd amserau o ‘ddrifftio’, ond yn union fel pan fyddwch yn tynnu ar fand elastig, fe wnaeth Duw ddod â fi nôl bob tro!
Misha: Doedd fy nheulu ddim yn deulu eglwysig pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Ond, pan oeddwn i’n 14 neu 15 mlwydd oed, ces i brofiad clir iawn o Dduw yn siarad trwy astudiaeth Feiblaidd. Yr un noson, roeddwn i ar ddi-hun yn ysgrifennu ychydig o farddoniaeth ac – yn sydyn – fe wnaeth yr hyn roeddwn i’n ei ysgrifennu droi yn gerdd am gariad Duw! Serch hynny, fe ges i amser anodd. Roedd y cyd- destun roeddwn i ynddo fe yn teimlo’n eitha trwm yn ysbrydol, a doedd dim dealltwriaeth gen i am
ryddid y bywyd Cristnogol. Fe wnes i deimlo galwad i’r weinidogaeth, ond fel menyw, roedd hynny’n anghyffredin yn yr eglwys lle cefais fy magu, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i wneud gyda’r galwad. Ond, des i nôl i ffydd fywiol trwy’r Cwrs Alpha, ble gwnes i ddarganfod realiti yr Ysbryd Glân, rhyddid Crist, a gras! Fe wnes i hefyd ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth yn dychwelyd.
Sut mae’r weinidogaeth yn edrych i’r ddwy ohonoch chi yng Nghapel Pentref?
Misha: Mae gennym ni gynulleidfa fach… ond mae enw gennym am fod yn lle croesawgar a chynnes. Doedd dim plant gyda ni am sbel, ond ychydig funudau yn ôl fe wnaethom ni weddïo i’r peth, a thrwy atebion i weddi a chamau ffydd mae nawr gennym Ysgol Sul fach! Mae rhieni hefyd yn dod i’r gwasanaethau, ac rydyn ni’n caru’r ffaith eu bod nhw’n gallu clywed yr efengyl!
Rydym ni’n aml yn darganfod ein hunain yn gofyn, ‘Oes angen i ni wneud pethau yr un ffordd rydyn ni o hyd wedi eu gwneud nhw, neu ydyn ni’n gallu trio rhywbeth gwahanol?’. Felly, rydyn ni’n arbrofi gyda addoli o gwmpas byrddau. Rydym ni hefyd wedi dechrau trefnu pryd o fwyd cymunedol bob mis. Rydym ni hefyd yn trio gwasanaethau sydd ychydig yn wahanol bob 5ed Sul, er enghraifft ‘Pizza, Mawl a Phypedau’!
Cyfarfu’r grŵp Senana yn ddiweddar yn eu cynhadledd flynyddol yng Ngholeg Trefeca ar y 3ydd – 5ed o Fedi.
Sut wnaeth y ddwy ohonoch chi benu lan yn gyd-Llywyddion ar Senana?
Misha: Buodd Elsa’n rhan o Senana am sbel, ac roedd hi’n fwy cyfarwydd gyda Senana na fi, ond dyw hi ddim yn mwynhau siarad cyhoeddus! Ar fy rhan i, dwi’n hen arfer â phregethu, ond doeddwn i ddim yn adnabod y sefydliad mor dda. Felly, dyma ni’n meddwl y byddem ni’n dîm da ac yn gallu gwneud y swydd rhyngom ni!
Beth yw eich gweddi ar gyfer Senana, ac eglwys Pentref wrth edrych i’r dyfodol?
Misha ac Elsa: Ar gyfer Senana, rydym ni’n ymwybodol nad yw nifer o bobl ifanc yn gwybod am y sefydliad, ac felly rydym ni’n ceisio lledu’r gair rywfaint – byddem ni’n caru gweld mwy o fenywod iau yn ymwneud â chenhadaeth Duw ar draws y byd trwy BMS World Mission. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel ar draws y byd.
Ein gweddi ar gyfer Pentref fel eglwys yw i fod yn fan sydd yn medru croesawu pobl i’r gymuned sydd efallai heb deimlo croeso o’r blaen ac efallai nad ydynt yn perchen ar ffydd, a rhoi’r rhyddid iddyn nhw archwilio. Dwi o hyd yn dweud, ‘Mae gan Dduw degell sydd o hyd yn berwi yn Ei gegin, ac mae cwpan ar y wal gyda phob un o’n henwau arno fe, a’r cyfan mae Duw am i ni wneud yw cymryd y cwpan i lawr a chael paned!’.
Gallwch ddarganfod mwy am waith Senana yma, a gallwch ddysgu am BMS World Mission a’r gwaith maen nhw’n ei wneud ar draws y byd ar eu wefan. Byddai Elsa a Misha hefyd wrth eu bodd yn eich croesawu i Eglwys Pentref yn y Bontnewydd-ar-Wy, sydd yn disgrifio’i hunan fel ‘eglwys Feddydiedig gyfeillgar, gydag addoliad ar y Sul am 10:30 yb ac am 6:30 yh.’