Dydd Agored Glyn Nest! (diweddariad)

Cyfle i ddod i ddysgu am Glyn Nest, ein cartref gofal gafodd adroddiad disglair eleni gan arolygiaeth gofal Cymru.

Efallai eich bod chi’n cofio sut gafodd ein cartref gofal yng Nghastell Newydd Emlyn adroddiad serennog eleni gan arolygiaeth gofal Cymru – mae yna groeso cynnes nawr i ddod i glywed mwy mewn digwyddiad arbennig ar y 30ain o Awst.

Cynhelir digwyddiad ‘Dydd Agored’ Glyn Nest yng Nghapel Y Graig, Castell Newydd Emlyn, a bydd y diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth byr o ddiolchgarwch am 2yh. Agorir y gwasanaeth gan Mr Trefor Davies, Porthcawl, ac fe fyddwn yn marcio 50 mlynedd o wasanaeth ffyddlon.

Dyma’r diwrnod agored cyntaf ers 2019 – felly dewch yn llu i gefnogi!

Pris mynediad: £2.

*Diweddariad pwysig: Ni fydd cartref Glyn Nest ei hunan ar agor i ymwelwyr ar y diwrnod: cynhelir y diwrnod yng Nghapel y Graig. Argymhellir i westeion ddarganfod llefydd parcio yn y dref, gan na fydd lle i barcio yn y cartref*

Am fwy o wybodaeth, ewch at: Glyn Nest | Care Home / cysylltwch â 01239 710950.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn 2025 – cadw lle nawr!

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni! Mae’r ffurflen i gadw lle yn fyw nawr – cynta i’r felin…

Darllen mwy »

Drysau agored yng Nghwm Rhondda?

Magwyd Morwenna Thomas yn Nhonypandy yng nghanol cwm Rhondda Fawr. Fel y dywedodd wrth i ni sgwrsio, “Rydw i bob amser wedi teimlo galwad glir i’r gymuned – ac i mi mae hynny’n golygu’r cymunedau hyn.” Roedd Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn awyddus i gefnogi gweinidogaeth genhadol…

Darllen mwy »

Bedyddiadau’r Pasg

Fel Bedyddwyr rydym wrth ein bodd yn dathlu’r ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu sy’n digwydd mewn bedydd crediniwr! Cynhaliwyd llu o Fedyddiadau ledled Cymru dros benwythnos y Pasg…

Darllen mwy »