Cartref Gofal Glyn Nest yn serennu

‘Peth mawr yw rhoi’r person chi’n caru mwya’n y byd i ofal rhywun arall!’ Yr her fawr i gartre preswyl yw i anrhydeddu hynny – a dyna mae Glyn Nest, cartref preswyl Undeb Bedyddwyr Cymru, wedi llwyddo i wneud gan dderbyn adroddiad disglair wrth arolygiaeth gofal Cymru eleni. 

Lle i 28 o ddeiliaid sydd yn y cartre preswyl unigryw yma, sy’n swatio ar lethr goediog ar gyrion tre farchnad Castellnewydd Emlyn. Ond er mai cartre’r Bedyddwyr yw Glyn Nest, gyda’r Mudiad Chwiorydd ymhlith eraill yn allweddol wrth ei sefydlu a’i chynnal, nid cartre ar gyfer Bedyddwyr yn unig mohono. ‘Dilyn egwyddor y Samariad trugarog rydym ni yma – yn croesawu pawb yn ddi-wahân, ac yn trio rhoi’r gofal Cristnogol gorau iddyn nhw.’ Dyna mae’r arolygiaeth wedi ei chydnabod yn ei hadroddiad diweddar, sy’n canmol amgylchedd ‘groesawgar’ a ‘chartrefol’ y cartre, gan nodi bod ‘anghenion…unigol y bobl yn bwysig’ i staff ‘ymroddgar’ y cartre. Beth felly sydd wrth wraidd hyn – mewn oes pan fydd cymaint o newyddion drwg yn dod o gartrefi preswyl? 

‘O, mae sawl peth weden i,’ meddai Jane, rheolwraig y cartre sy wedi gweithio yno ers canol yr 80au. ‘Dwi yn meddwl yn amal bod eisiau treulio diwrnod yn sgidie un o’r deiliaid yma er mwyn cael dealltwriaeth go iawn. Mae parchu’r unigolyn yn iawn yn bwysig dros ben i ni, ac mae hynny’n meddwl bod teuluoedd yn rhan bwysig o’r cartre – wrth dderbyn person, rydych chi’n derbyn y teulu hefyd!’ Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y negeseuon o ddiolch sy’n dod i’r cartre o deuluoedd deiliaid, fel hyn o fis Hydref 2022 – ‘gair bach i ddiolch o waelod calon am ofalu am Dad mewn modd tyner, caredig a gofalus….rydyn ni’n eich cyfri’n ffrindie’. 

Ac mae’r agosatrwydd hynny yn amlwg, nid yn unig wrth siarad gyda staff y Cartre ond hefyd y cyfarwyddwyr (gwirfoddol) sy mor ymroddedig i’r lle. ‘Wy’n cofio dod ar draws Charlie, sy wedi marw bellach, yn sgubo dail un diwrnod o Hydref tu fas i’r cartre’ meddai Parch Irfon Roberts, un o’r cyfarwyddwyr. ‘Pam oedd e’n gwneud ‘ny, gofynnais iddo? “Wel, dyma ‘nghartre nawr!” medde fe, a byddai’n prynu blodau o’r ganolfan arddio, neu’n dal y bws i Langwili i mofyn presgripiwn i un arall o’r deiliaid.’ Wedyn roedd Frida, a fyddai’n trefnu digwyddiadau lu i’r holl drigolion, neu Arwel, cyn-weinidog a gymerai oedfaen yn y capel gerllaw. ‘Chi yn mynd yn attached iawn iddyn nhw!’ 

Er bod pob diwrnod yn wahanol, mae rhythm gymunedol hamddenol yn nodweddu bywyd y Cartre. Ar ôl newid o staff y nos i staff y dydd a threfnu’r feddyginiaeth fore, daw’n amser brecwast a dewis i bobl ei gymryd yn y gwely neu i lawr gyda phawb arall. Yna cinio poeth o gynnyrch lleol wedi coginio gartre (caserol cyw iâr, cinio dydd Sul, cig moch mewn saws persli ayyb) a chyfle am gwsg, neu weithgareddau yn y prynhawn; popeth o drin gwallt, gwneud cardiau a chrefft a therapi anifail anwes.  

Yna bob mis bydd oedfa gymun dan ofal pwyllgor y tŷ, a gwasanaethau eraill dan ofal y Caplan, Parch. Sian-Elin Thomas. ‘Mae’n fraint cael bod mewn perthynas gyda phobl fel hyn, a bod yn glust iddyn nhw! Dwi mewn a mas o’r cartre drwy’r amser, ond mae’r oedfaon yn arbennig achos un peth sy’n gwbl sicr yw bod deiliaid Glyn Nest yn dwlu canu! Ac mae sawl un wedi dweud dros y blynyddoedd gymaint maen nhw’n joio pregethu yma hefyd – maen nhw’n gynulleidfa sbesial’ 

Beth oedd i gyfri felly fwya am naws unigryw y lle, pan fod cynnal hynny mor heriol yn ein dydd ni? Ym marn Jane, roedd cyfuniad o bethau ar waith, ‘ac efallai yn y bôn mae ‘na elfen gartrefol o groeso Cymraeg rydyn ni’n arddel yma.’ Ac, noda Irfon, er nad yw pob aelod o staff yn Gristion, maen nhw i gyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr ethos berson-ganolog sy’n deillio o seiliau ffydd y Cartre. ‘Nid oes yn y Beibl le na chyfiawnhad i’r hyn a alwn heddiw yn ageism’, meddai, ‘Yn hytrach, mae Duw yn addo bod gyda ni yn ein henaint, ein cynnal, a’n gwarchod.’ 

Am ragor o wybodaeth am Gartre Glyn Nest, edrychwch ar Glyn Nest | Care Home 

Oes yna rywun yn eich eglwys neu’ch teulu chi sy’n ystyried opsiynau gofal at y dyfodol? Mae croeso i chi gysylltu â’r cartre am sgwrs anffurfiol unrhyw bryd trwy ffonio 01239 710950. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »