Cynhadledd 2022!

Mae croeso i bawb i Gaerfyrddin ym mis Mehefin ar gyfer cyfle llawen i ailgysylltu gyda’n gilydd. Ar ddydd Gwener 24ain Mehefin cawn gyfle i ddod at ein gilydd fel Undeb ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, ac yna bydd rhaglen amrywiol ac anffurfiol i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 25ain Mehefin a fydd yn ceisio ein helpu ni i wrando ar Dduw! 

Mae croeso i bawb i’r dydd Gwener, pan fyddwn yn sefydlu ein Llywydd newydd, Dr Densil Morgan. Bydd y diwrnod yn rhedeg rhwng 10am a 6pm a bydd pryd o fwyd gyda’r nos gyda’n gilydd yn ei ddilyn. Cost tocyn fydd £32 (i lawr o’r tro diwetha) y pen gan gynnwys cinio a swper. 

Bydd ein diwrnod ‘Gweddi, Gŵyl a Hwyl’ ar ddydd Sadwrn 25ain (10am-4pm), a gynhelir ar y cyd â SWBA a BMS, yn ddiwrnod arbennig i deulu cyfan y Bedyddwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o amgylch y thema ‘Clywed Llais Duw’. Bydd y diwrnod cyfan yn addas i deuluoedd gyda gweithgareddau i bob oedran a chyfle i adnewyddu cyfeillgarwch gyda hen ffrindiau a newydd. Cost tocyn oedolyn fydd £12 a phlant yn gallu dod am ddim. Yn ysbryd yr Eisteddfod mae’r diwrnod yn cynnig dewis i chi fynychu cymaint neu cyn lleied o weithgareddau ag y dymunwch gyda’r pwyslais ar ‘ddod at ein gilydd’: 

  • Ymgysylltu’n greadigol â’n darlleniad o’r Beibl wrth i ni glywed Duw yn siarad trwy Ei Air. 
  • Os hoffech chi ganu, ewch draw i’r côr cymunedol! 
  • Dod â rhywfaint o greadigrwydd i’r prosiect celf cymunedol gyda chelf a chrefft. 
  • Ymunwch â hwyl a gemau yn y Neuadd Chwaraeon. 
  • Ewch yn ddyfnach mewn cyfres o sgyrsiau byr ar faterion amserol gyda siaradwyr gwadd. 
  • Neu efallai eich bod chi eisiau hufen iâ yn yr haul a dal i fyny gyda ffrindiau – gallwch chi wneud hynny hefyd heb deimlo y dylech chi fod yn rhywle arall! 

Bydd ffurflenni cofrestru yn cael eu rhoi yn y post i’r capeli i gyd, neu gallwch gofrestru yn ddiffwdan arlein yma ar gyfer y dydd Sadwrn neu’r ddeuddydd (am bris gostyngol o £40): Gweddi, Gwyl a Hwyl / Prayer, Picnic and Party! Tickets, Sat 25 Jun 2022 at 10:00 | Eventbrite
Neu os ydych yn gallu mynychu’r dydd Gwener yn unig, cofrestrwch yma: Cynhadledd Flynyddol UBC / BUW Annual Conference Tickets, Fri 24 Jun 2022 at 10:00 | Eventbrite

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »