“Credaf yn un Duw,
y Tad Hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.
Ac yn un Arglwydd Iesu Grist,
unig-genedledig Fab Duw…”
Mae’n debyg y bydd y geiriau hyn, o gychwyn Credo Nicea, yn teimlo’n gyfarwydd i ni. Ond wrth i ni ddathlu penblwydd y Credo yn 1700 oed, ydy e’n parhau i fod yn berthnasol i ni yng Nghymru heddiw?
Cawsom ni’r fraint o gael Dr D. Densil Morgan yn dod atom i agor y pwnc i ni yn ein gwasanaeth Ilston blynyddol, o dan y teitl, “I’r Drindod heb wahân/ Rhown fawl ar gân i gyd: Credo Nicea a Chymru 2025”.
Dyma atgynhyrchu’r testun isod: