Darllenwch isod i gael golwg nôl dros ein cynadleddau blynyddol y mis Mehefin diwethaf… Diolch i bawb wnaeth rannu’r gair, fynychu, neu gymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd yn naill neu’r llall gynhadledd. Cawsom amser bendithiol, ac rydym yn ddiolchgar am y cyfan y gwnaeth yr Arglwydd yn ein plith!
Momentum 2026
Ar ddechrau mis Mehefin, daeth dros 200 o bobl at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd Momentum yn yr Halliwell, Caerfyrddin. Eleni ystyrion ni’r thema “Darganfod Ei Ffordd” (“Finding His Way: Keeping in Step with Jesus”). Roedd y diwrnod yn blethiad hyfryd o fawl, gweddi, a straeon ysbrydoledig am gwrdd â Iesu ar bererindod bywyd.
Cawsom ein bendithio nid yn unig gan bresenoldeb Dot Tyler o 24/7 Prayer GB, ond hefyd Kang-San Tan a thîm o BMS World Mission, a Trystan Owain Hughes.
Un o’r llinynnau cryf a blethodd trwy’r diwrnod oedd thema ein teithiau ffydd gyda’r Arglwydd – yn enwedig fel a brofir trwy weddi. Eleni roedd ffocws ar ymwneud â gweddi yn unigol ac ar y cyd – yn wir, roedd yr ystafell weddi newydd yn brysur iawn ar sawl adeg! Roedd hi’n arbennig iawn bod yng nghwmni Dot Tyler a Mark Fairweather-Tall yn yr oedfa bob oedran wrth i ni ymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol i ysbrydoli ein gweddïau (o ffenestri gwydr lliw DIY i gadwyn weddi enfawr!).
Roedd ffocws hefyd ar genhadaeth yn ystod y diwrnod – nid yn unig wrth glywed straeon am Dduw ar waith trwy BMS World Mission, ond hefyd wrth ystyried sut y gallwn fyw ein ffydd mewn cyd-destunau ‘dydd i ddydd’ gyda phanel amrywiol. Mae’n ymddangos bod y plant a’r ieuenctid wedi cael eu hysbrydoli gan sesiynau gwych yn eu ffrydiau hefyd, ac iddynt gael eu hannog nad ydyn nhw fyth yn rhy ifanc i weddïo! Roedd Momentum eleni yn ddiwrnod ysbrydoledig, creadigol a llawn ffydd: i bob oedran!
Cadwch lygaid allan ar gyfer dyddiadau 2027 – yn dod yn fuan!


Undeb Caerdydd 2026
Ar y 18fed – 22ain o Fehefin, daeth nifer o blith teulu Undeb Bedyddwyr Cymru (iaith Gymraeg) at ei gilydd am bedwar diwrnod o gyfarfodydd, cymdeithas a mawl yng Nghaerdydd.
Roedd eleni yn gyfarfod arbennig – gyda’r Barch. Ddr Rosa Hunt yn cael ei hurddo fel llywydd: os nad fel y llywydd cyntaf erioed a anwyd y tu allan i Gymru – yn sicr fel y fenyw gyntaf o’u plith! Cawsom deuddydd cychwynnol amrywiol wrth i ni ystyried materion eang yn ein cyfarfodydd busnes – o Esgyn a chenhadaeth ymhlith yr ifainc, i adeiladau a chyfleoedd arloesol newydd posib, i hanes yr hanesydd T M Bassett wrth i lyfrgell newydd gael ei agor yn ei enw yng Ngholeg Bedyddwyr Caerdydd. Clywsom hefyd wahanol ddiweddariadau o blith teulu UBC ar draws y genedl, a straeon ysbrydoledig am genhadaeth yn Nhonteg ac yng Nghaernarfon.
Cawsom wledd yn y nosweithiau hefyd: bwyd ardderchog yng Nghaerdydd, wedi dilyn gan wleddoedd cerddorol ac ysbrydol yn yr hwyr. Un uchafbwynt oedd oedfa’r Llywydd ar y nos Wener wrth i ni groesawu’r Barch. Ddr. Rosa Hunt fel llywydd. Clywsom anerchiad ysbrydoledig ganddi ar y thema ‘Rhodiwch mewn Cariad’ yn seiliedig ar Effesiaid 5:2, gyda Rosa yn ein herio i feddwl am gariad Duw fel grym nerthol – sydd yn gallu ail-gyfeirio ein cynlluniau mewn ffyrdd drastig, a’n harwain at y llefydd ble mae’r Arglwydd eisoes ar waith.
Diolch i Eglwys y Tabernacl ac i Rosa am groeso mor gynnes i Gaerdydd eleni! Edrychwn ymlaen at yr Undeb nesaf: ym Mangor!