Mae croeso i bobl ifanc archebu eu llefydd ar benwythnosau 2026 Esgyn! Mae’r tîm ‘Esgyn’ yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc o Gymru benbaladr i ddau benwythnos cyffrous sydd bellach ar y gorwel… …
Lansiwyd menter ieuenctid newydd ‘Esgyn’ yn 2024 fel gofod newydd i bobl ifanc ar draws ein heglwysi – gyda’r ymwybyddiaeth bod amserau o gymuned a chyswllt yn gallu bod yn wirioneddol werthfawr i’r rhai sydd yn archwilio bywyd a ffydd – a’i fod yn gallu bod yn gyfle gwych i archwilio antur dilyn Iesu.
Fe wnaeth y tîm lansio penwythnos cyntaf Esgyn yn Nhreharris ym mis Chwefror 2024, ac mae’r penwythnosau wedi parhau i dyfu er hynny!
Mae dau gyfle cyffrous gennym ar y gorwel eleni:

Bydd penwythnos cyntaf Esgyn Plus (i ieuenctid 16-21 oed) yn digwydd y mis Medi hwn, ger Tŷ Ddewi, o’r 18fed – 20fed. Mae hwn yn brofiad newydd i ieuenctid hŷn sydd am fynd ychydig yn ddyfnach yn eu taith ffydd, a phrofi antur newydd mewn cymuned groesawgar.
Bydd y penwythnos yn cynnwys:
- Amserau o gymuned, addoli, hwyl a bwyd da!
- Gweithgareddau opsiynol (e.e ‘Coasteering’ neu Padl-fyrddio)
- Ymweld â dinas hardd Tŷ Ddewi
- Gweithgareddau a gemau ar draeth Caerfai
… a llawer mwy!
Nodyn: Er bod y dyddiad terfyn gwreiddiol i archebu llefydd ar weithgareddau opsiynol TYF, mae dal croeso i chi holi am lefydd dros ben gan ddefnyddio’r ffurflen yma – ond plîs archebwch eich lle cyn gynted â phosib! Gallwch hefyd gysylltu â sioned@ubc.cymru am fwy o wybodaeth neu gadarnhad am y llefydd sydd ar ôl ar y gweithgareddau)
Gallwch ddarganfod mwy am Esgyn Plus yma: Esgyn – The Baptist Union of Wales.

Bydd penwythnos Esgyn i ieuenctid 11-16 oed yn dychwelyd eleni i Ganolfan Summit, Treharris o’r 20fed – 22ain o fis Tachwedd, yn adeiladau ar gryfderau blynyddoedd blaenorol, tra’n cynnig gweithgareddau a phrofiadau newydd.
Mae modd archebu lle ar y ddau benwythnos yma: Esgyn – The Baptist Union of Wales. (noder bod cymorth ariannol sylweddol ar gael gan UBC).
Os ydych yn arweinydd neu’n ysgrifennydd eglwys – plîs ystyriwch os ydych chi fel eglwys â diddordeb i gefnogi unrhyw bobl ifanc i ddod ar y penwythnosau, neu os gallwch ledu’r gair gydag unrhyw bobl ifanc yn eich cymuned. Byddem wrth ein bodd yn eu croesawu!
Byddai tîm Esgyn hefyd yn gwerthfawrogi gweddi ar gyfer y ddau benwythnos, ac ar gyfer yr holl baratoadau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gallwch weddïo:
- Am baratoi a chynllunio da – y byddai tîm Esgyn yn cael eu harfogi a’u harwain gan yr Arglwydd ym mhob agwedd o baratoi yn dda i groesawu’r bobl ifanc i awyrgylch ddiogel a chroesawgar.
- I law Duw i fod ar y ddau benwythnos: y byddai’r bobl ifanc yn cael amser gwych, yn creu ffrindiau newydd, ac yn dysgu mwy am antur dilyn Iesu.