Bywyd Newydd! Bedyddiadau 2024

Gwnaed galwad yn yr Hydref yn gofyn a oedd bedyddiadau wedi bod yn digwydd ar draws ein heglwysi yn ddiweddar, ac i glywed rhai o’r hanesion hynny. Cafwyd ymateb gwych, gyda nifer yn adrodd am bobl ifanc yn cael eu bedyddio yn ddiweddar, a chapeli mewn rhannau gwahanol iawn o Gymru yn son eu bod wedi bedyddio am y tro cyntaf mewn blynyddoedd lawer! 

Yn gyfan gwbl, yn ôl ystadegau’r Cymanfaoedd ar gyfer 2024, fe fedyddiwyd 59 o gredinwyr ar draws eglwysi UBC yn 2024, sef y nifer uchaf ers bron i ddeng mlynedd. 

Ymhlith y straeon ddaeth i’n clyw oedd hanes eglwys Deer Park , Dinbych-y-Pysgod, lle cafodd dwy grediniwr newydd eu bedyddio. Ym mis Awst, bedyddiwyd Jeany a ddaeth i ffydd newydd ar ôl archwilio’r ffydd Gristnogol gydag arweinwyr yr eglwys. Ar yr un pryd, roedd Duw ar waith yng nghalon Bunty oedd wedi dechrau dod i’r eglwys ers blwyddyn a hanner. Sylweddodd ei bod hi hefyd am gael ei bedyddio, a chafodd ei bedyddio ar y 1af o Fedi yn y môr yn harbwr Dinbych y Pysgod! Dyma oedd y bedyddiadau cynta yn yr eglwys ers ugain o flynyddoedd! 

Ym mis Medi, fe fedyddiwyd sawl person ifanc ar draws ein heglwysi. Yng Nghaerdydd, bedyddiwyd Aled – dyn ifanc a ymunodd â Tabernacl Caerdydd yn diweddar. Yng nghapel Carmel Pontlliw, cafodd Harrison ei fedyddio gan ei weinidog Parch. H. Vincent Watkins ar y 15fed o Fedi. Yng nghapel Pencarneddi Star ar ynys Môn, cafwyd hefyd lawenydd mawr wrth i 5 o bobl ifanc gyffesu eu ffydd Gristnogol a chael eu bedyddio yn y capel ar yr 22ain o Fedi. Roedd hyn yn achlysur o lawenydd gan mai’r tro cyntaf oedd hyn i’r capel weld bedyddiadau ers 1990. Clod i Dduw am iddo barhau i weithio mewn calonnau ar draws ein gwlad! 

Edrychwn felly i’r flwyddyn newydd yma mewn ffydd, gan gofio bod yr Arglwydd Dduw ar waith yn ein gwlad gan ddod â bywyd ysbrydol newydd i’n heglwysi. Fedrwch chi weddïo – dros y credinwyr newydd yma a thros eu heglwysi? 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau