Blwyddyn fendithiol o interniaeth

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cefais y cyfle i weithio fel intern yn fy eglwys leol, Y Tabernacl Llwynhendy, ac yng Ngharmel, Pontlliw.

Rydw i’n ddiolchgar i Dduw am fendithion y flwyddyn – deuddeg mis yn llawn o gyfleoedd a phrofiadau newydd; cyfarfod pobl newydd a dod i’w hadnabod. Treuliais lawer o’m hamser yn astudio’r Gair a darllen llawer o gyfrolau yn ymwneud a’r ysgrythurau o dan gyfarwyddyd Gweinidog Y Tabernacl, Parchg John Treharne. Bu’r Parchg John Treharne yn help mawr i mi drwy gydol y flwyddyn. Unwaith yr wythnos bûm yn cyfarfod  â John i drafod yr hyn a ddysgwyd o’m darllen dros yr wythnos flaenorol, ac roedd yn gyfle i weddïo gyda’n gilydd.

Bûm yn pregethu yn wythnosol mewn nifer o gapeli lleol, a hoffwn ddiolch o galon i’r cynulliadau hyn o bobl Dduw am eu gwahoddiadau caredig, eu croeso cynnes, eu gwrandawiad, eu hamynedd, eu hadborth adeiladol, ac, yn aml, gwahoddiad i bregethu gyda nhw eto! Cefais y cyfle i baratoi ac arwain astudiaeth Feiblaidd i oedolion yng Ngharmel a chapel Gomer, Abertawe. Roedd hyn yn brofiad newydd a gwerthfawr a fydd yn help i mi ar gyfer y dyfodol.

Gwnes i fwynhau ymwneud â bywyd eglwys arall (Carmel Pontlliw) ar wahân i’m heglwys leol – cefais y cyfle, gyda chymorth eraill, i ail ddechrau’r clwb ieuenctid yno ar ôl yr ail gyfnod clo. Roedd yn hyfryd gallu dod i adnabod rhai o ieuenctid Pontlliw a chael y cyfle i rannu’r Efengyl o wythnos i wythnos gyda nhw. Roeddwn hefyd yn cyfarfod â’r Parchedigion Vincent Watkins a Derek Rees yn wythnosol yn ystod fy nghyfnod yng Ngharmel, Pontlliw. Roedd hyn yn gyfle i mi ofyn cwestiynau i ddau weinidog profiadol a dysgu mwy am faterion yn ymwneud â gweinidogaeth y Gair.

Rydw i’n ddiolchgar i’r Parchedigion John Treharne, Vincent Watkins a Derek Rees am eu cwmni, cymorth ac arweiniad yn ystod y flwyddyn. Edrychaf ymlaen nawr i astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Bedyddwyr De Cymru dros y tair blynedd nesaf, gan ddechrau ddiwedd Medi 2021.

Er fy anffyddlondeb mynych, rwy’n ddiolchgar i Dduw ei fod wastad yn ffyddlon i’w air, a’i addewidion ac i’w bobl: ‘Os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon.’ II Timotheus 2:13

Ydych chi, neu rywun rydych chi’n nabod yn pendroni am y dyfodol, ac am y bosibilrwydd o wasanaethu yn yr eglwys? Mae ein rhaglen interniaeth yn parhau – manylion yma.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »