Mae canlyniadau diweddar y cyfrifiad yn cadarnhau bod Cymru fel gwlad ar ei mwyaf seciwlar o fewn hanes, gyda llai na 44% o bobl yn dewis i roi tic yn y blwch ‘Cristnogol’. Ond er y gefnlen genedlaethol hon, mae pobl o bob oed ar draws y wlad wedi dewis eleni i wneud proffesiwn o ffydd yn Iesu Grist, ac i gael eu bedyddio.
Cynhaliwyd o leiaf 42 bedydd crediniwr dros y flwyddyn ddiwethaf yn eglwysi UBC, o gapeli bychain gwledig fel Ebenezer, Cold Inn (Sir Benfro) neu Beulah, Llidiart-y-waen (Powys) i gynulleidfaoedd mwy o faint a wnaeth fedyddio mewn rhai achosion sawl crediniwr yn ystod 2022.
Mae bedydd yn un o brif elfennau ein Datganiad o Egwyddor, fel yr amlinellodd y Parch Ddr Densil Morgan, Llywydd UBC yn ei anerchiad yn yr haf; ochr yn ochr ag arglwyddiaeth Crist a lle canolog cenhadaeth, ‘mae bedydd yn ein rhwymo ynghyd’. Er bod pob enwad Cristnogol yn bleidiol mewn egwyddor i’r syniad o fedyddio crediniwr newydd ar ei broffesiwn ffydd, cred y Bedyddwyr mai:
“Bedydd Cristnogol yw’r weithred o drochi mewn dŵr y sawl sydd wedi datgan edifeirwch ger bron Duw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist a fu farw dros ein pechodau yn ôl yr Ysgrythurau, a gladdwyd ac a atgyfodwyd y trydydd dydd.”
Ac fel y tystir yn y 42 bedydd ledled y wlad drwy’r flwyddyn, digwyddiad pwysig yw hwn, sy’n newid bywydau pobl. Yn Ebeneser, Dyfed – capel gwledig yng ngogledd Sir Benfro – bedyddiwyd tri chrediniwr, a oedd yn amrywio o ran eu hoedran o fod yn eu harddegau i ganol oed. Fel dywedodd Fflur, ‘roedd y profiad o gael fy medyddio yn gwbl unigryw. All geiriau ddim disgrifio’r peth! Roedd hi’n gymaint o bleser gallu rhannu’r diwrnod gyda holl aelodau selog y capel a gyda ffrindiau a theulu.’ Yna ym mis Medi, cynhaliwyd bedydd awyr agored gyda dau ddyn ifanc ym Methel, Silian – eglwys fechan â 24 aelod yn perthyn iddi yng Ngheredigion. Roedd y bedydd wedi’i ohirio o ganlyniad i’r pandemig ac felly roedd llawer o lawenydd wrth i Mark ac Aron gael eu trochi’n symbolaidd yn y dyfroedd dim ond i gael eu codi i fywyd newydd gyda Christ.
Dim ond dau ymhlith llawer yw’r straeon hyn; ond yr hyn sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw’r ffaith fod yr Ysbryd Glân yn parhau i fod ar waith yn ein gwlad, gan alw pobl i ddilyn Iesu.